Apocryffa'r Hen Destament: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 5:
 
=== Trefn y Deg a Thrigain ===
Cynnyrch yr Iddewon [[Oes Helenistaidd|Helenistaidd]] oedd cyfieithiad y Deg a Thrigain. Trosasant testunau [[Hebraeg]], ac ambell ysgrif [[Aramaeg]], i'r iaith [[Hen Roeg (iaith)|Roeg Coine]] yn y 3g CC. Y llyfrau yn y cyfieithiad yma a ystyriwyd yn anghanonaidd gan Iddewon eraill yw [[Llyfr Jwdith]], [[Doethineb Solomon]], [[Llyfr Tobit]], [[Llyfr Eclesiasticus]] (neu Ddoethineb Iesu fab Sirach), [[Llyfr Baruch]], a llyfrau'r Macabeaid ([[Llyfr Cyntaf y Macabeaid|1]] a [[Ail Lyfr y Macabeaid|2]]). Gweithiau hanesyddol neu ffug-hanesion yw Jwdith a Tobit, a [[llên ddoethineb]] yw Doethinebau Solomon a Sirach, yn debyg i [[Llyfr y Diarhebion|Lyfr y Diarhebion]], [[Llyfr Job]], a [[Llyfr y Pregethwr]]. Ychwanegiad at [[Llyfr Jeremeia|Lyfr Jeremeia]] yw Baruch, o safbwynt ysgrifennydd y proffwyd hwnnw. Hanesion yn nhraddodiad llyfrau Samuel ([[Llyfr Cyntaf Samuel|1]] a [[Ail Lyfr Samuel|2]]), y Brenhinoedd ([[Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd|1]] a [[Ail Lyfr y Brenhinoedd|2]]), a'r Croniclau ([[Llyfr Cyntaf y Cronicl|1]] a [[Ail Lyfr y Cronicl|2]]) yw llyfrau'r Macabeaid. Cafodd y gweithiau hyn i gyd eu hystyried y tu allan i'r canon Hebraeg gan ysgolheigion Iddewig yn niwedd y 1g OC. Awgrymodd y hanesydd Heinrich Graetz i'r ysgolheigion hynny gytuno ar y canon yng "Nghyngor Jamnia",<ref>Heinrich Graetz, ''Kohelet oder der Salomonische Prediger: Ubersetzt und Kritisch Erläutert'' (Leipzig, 1871), tt. 147–173.</ref> ond gwrthodir y ddamcaniaeth hon gan hanesyddion diweddar.<ref>Jack P. Lewis, "Jamnia Revisited" yn ''The Canon Debate'', golygwyd gan L. M. McDonald a J. A. Sanders (Peabody, Massachusetts: Hendrickson, 2002), tt. 146–162.</ref> Yr enw a roddir yn [[y Talmwd]] ar y gweithiau anghanonaidd hyn yw ''Sefarim Hizonim'' ("Llyfrau Allanol").
 
=== Canonau Cristnogol ===