Cwpan Eingl-Gymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: en:Anglo-Welsh Cup
Data added (sgwrs | cyfraniadau)
timau Cymraeg?
Llinell 15:
 
==Hanes==
Ffurfiwyd y gystadleuaeth yn nhymor 2005-2006 â'r bwriad o adfer yr ymryson rhwng y clybiau Saesneg a'r rhanbarthau Cymreig. Rownd grŵp (lle mae'r grwpiau wedi eu trefnu i leihau'r pellter teithio rhwng y timau, ac i gadw'r timau CymraegCymreig ar wahân) ac yna dau rownd ''knock-out'' i benderfynu'r ennillydd yw strwythur y gwpan. Dim ond unwaith bydd y tîmau o fewn pob grŵp yn chwarae ei gilydd, er mwyn lleihau'r effaith ar amserlenni'r [[Guinness Premiership]] a'r [[Cynghrair Celtaidd|Gynghrair Geltaidd]].
 
Bu tipyn o ymryson ynglŷn ag effaith y gystadleuaeth ar gystadlaethau eraill y tîmau Cymreig a Saesnig. Ar ôl i [[Undeb Rygbi Cymru]] gyrraedd cytundeb ag [[Undeb Rygbi Lloegr]] ynglŷn â'r gystadleuaeth, diarddelwyd rhanbarthau Cymru dros dro o'r gynghrair Geltaidd oherwydd y grêd y byddai ymglymiad rhanbarthau Cymru i'r Cwpan Eingl-Gymreig yn datbrisio'r gynghrair. Er hynny, dychwelodd y rhanbarthau Cymraeg yn ôl i'r gynghrair wedi cytundeb a fyddai'n osgoi chwarae gemau Eingl-Gymreig ar benwythnosau a dyranwyd yn wreiddiol i'r Gynghrair Geltaidd.