Zeus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Yn ailgyfeirio at Iau (duw)
 
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Zeus''' oedd brenin y duwiau yn chwedloniaeth Groeg, yn cyfateb i'r duw Rhufeinig [[Iau (duw)|Iau]].
#Ail-cyfeirio [[Iau (duw)]]
 
Roedd Zeus yn briod i [[Hera]] ond yn anffyddlon ac yn cael nifer o berthnasau gyda duwiesau a merched meidrol. Ei blant gyda [[Hera]] oedd [[Hebe]], [[Ares]] a [[Hephaestos]].
 
Ymysg plant gordderch niferus Zeus oedd [[Apollo]] ac [[Artemis]] gyda'r ffigur dirgel [[Leto]]; [[Hermes]] gyda [[Maia]], merch [[Atlas]]; [[Dionysos]], duw gwin, gyda [[Semele]], merch [[Cadmus]]; [[Persephone]] gyda'r dduwies [[Demeter]]; a'r arwr [[Heracles]] gyda'r ferch meidrol [[Alcmene]].
 
Byddai Zeus yn aml yn cymryd ffurf arall i guddio oddi wrth Hera neu ddod yn agosach at ei gariadon. Fe hudodd Iau [[Leda]], Brenhines [[Sparta]] wedi'i guddwisgo fel alarch a chawsant yn blant yr efeilliaid [[Castor]] a [[Pollux]]. Cafodd berthynas ag [[Io]], merch y duw Inachus, wedi'i guddwisgo fel cwmwl fel na byddai ei wraig yn ei ddatgelu, ond yn ofer.
 
Roedd yr eryr a'r taranfollt yn briodoleddau cyffredin gan Zeus. Caiff ei bortreadu yn aml yn eistedd ar ei orsedd yn dal teyrnwialen.
 
[[Categori:Duwiau]]
[[Categori:Mytholeg Roeg]]