Iau (duw): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: szl:Zeus
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:IngresJupiterAndThetis.jpg|200px|de|bawd|"Jupiter et Thétis" gan [[Jean Ingres]], 1811]]
 
'''Iau''' oedd brenin y duwiau yn [[chwedloniaeth]] [[Groeg]] (a'i alwaodd yn ''Zeus'') a [[Rhufain]] (a'i alwodd wrth ei enw [[Lladin]]: ''Iuppiter'' neu ''Iovis'' yn y modd genidol) oedd brenin y duwiau yn [[chwedloniaeth]] [[Rhufain]]. Rhoddodd ei enw i [[Iau (planed)|Iau]], y [[blaned]] fwyaf yng [[Cysawd yr Haul|nghysawd yr Haul]] ac enwyd diwrnod o'r wythnos ar ôl, ''Iovis dies'', a ddaeth i'r Gymraeg fel [[Dydd Iau]].
 
Roedd Iau yn briod i [[Juno]] (Groeg: [[Hera]]) ond yn anffyddlon ac yn cael nifer o berthnasau gyda duwiesau a merched meidrol. Ei blant gyda Juno oedd [[Hebe]], [[Mawrth (duw)|Mawrth]] (Groeg: [[Ares]]) a [[Fwlcan]] (Groeg: [[Hephaestos]]).
 
Ymysg plant gordderch niferus Iau oedd [[Apollo]] a [[Diana (duwies)|Diana]] (Groeg: [[Artemis]]) gyda'r ffigur dirgel [[Latona]] (neu [[Leto]]); [[Mercher (duw)|Mercher]] gyda Maia, merch [[Atlas]]; [[Bacchus]], duw gwin, gyda [[Semele]], merch [[Cadmus]]; [[Proserpina]] (Groeg: [[Persephone]]) gyda'r dduwies [[Ceres (mytholeg)|Ceres]] (Groeg: [[Demeter]]); a'r arwr [[Ercwlff]] (Groeg: Herakles) gyda'r ferch meidrol [[Alcmene]].
 
Byddai Iau yn aml yn cymryd ffurf arall i guddio oddi wrth Juno neu ddod yn agosach at ei gariadon. Fe hudodd Iau [[Leda]], Brenhines [[Sparta]] wedi'i guddwisgo fel [[alarch]] a chawsant yn blant yr efeilliaid [[Castor]] a [[Pollux]]. Cafodd berthynas ag [[Io]], merch y duw Inachus, wedi'i guddwisgo fel cwmwl fel na byddai ei wraig yn ei ddatgelu, ond yn ofer.
Llinell 14:
 
[[Categori:Duwiau]]
[[Categori:Mytholeg Glasurol]]
[[Categori:Mytholeg Roeg]]
[[Categori:Mytholeg Rufeinig]]