Iau (duw): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Roedd Iau yn briod i [[Juno]] ond yn anffyddlon ac yn cael nifer o berthnasau gyda duwiesau a merched meidrol. Ei blant gyda Juno oedd [[Hebe]], [[Mawrth (duw)|Mawrth]] a [[Fwlcan]].
 
Ymysg plant gordderch niferus Iau oedd [[Apollo]] a [[Diana (duwies)|Diana]] gyda'r ffigur dirgel [[Latona]]; [[Mercher (duw)|Mercher]] gyda Maia, merch [[Atlas]]; [[Bacchus]], duw gwin, gyda [[Semele]], merch [[Cadmus]]; [[Proserpina]] gyda'r dduwies [[Ceres (mytholegduwies)|Ceres]]; a'r arwr [[Ercwlff]] gyda'r ferch meidrol [[Alcmene]].
 
Byddai Iau yn aml yn cymryd ffurf arall i guddio oddi wrth Juno neu ddod yn agosach at ei gariadon. Fe hudodd Iau [[Leda]], Brenhines [[Sparta]] wedi'i guddwisgo fel [[alarch]] a chawsant yn blant yr efeilliaid [[Castor]] a [[Pollux]]. Cafodd berthynas ag [[Io]], merch y duw Inachus, wedi'i guddwisgo fel cwmwl fel na byddai ei wraig yn ei ddatgelu, ond yn ofer.