Zeus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ymysg plant gordderch niferus Zeus oedd [[Apollo]] ac [[Artemis]] gyda'r ffigur dirgel [[Leto]]; [[Hermes]] gyda [[Maia]], merch [[Atlas]]; [[Dionysos]], duw gwin, gyda [[Semele]], merch [[Cadmus]]; [[Persephone]] gyda'r dduwies [[Demeter]]; a'r arwr [[Heracles]] gyda'r ferch meidrol [[Alcmene]].
 
Byddai Zeus yn aml yn cymryd ffurf arall i guddio oddi wrth Hera neu ddod yn agosach at ei gariadon. Fe hudodd Iau [[Leda]], Brenhines [[Sparta]] wedi'i guddwisgo fel alarch a chawsant yn blant yr efeilliaid [[Castor]] a [[Pollux]]. Cafodd berthynas ag [[Io (mytholeg)|Io]], merch y duw Inachus, wedi'i guddwisgo fel cwmwl fel na byddai ei wraig yn ei ddatgelu, ond yn ofer.
 
Roedd yr eryr a'r taranfollt yn briodoleddau cyffredin gan Zeus. Caiff ei bortreadu yn aml yn eistedd ar ei orsedd yn dal teyrnwialen.