William Bingley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
B Gwybodlen wicidata
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
}}
Naturiaethwr ac awdur llyfrau taith [[Saeson|Seisnig]] oedd '''William Bingley''' (Ionawr [[1774]] – [[11 Mawrth]] [[1823]]). Ymddiddorai mewn cerddoriaeth yn ogystal. Cyhoeddodd ddau lyfr am ei deithiau yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]] ar ddiwedd y [[18fed ganrif|18fed]] a dechrau'r [[19g]].
 
Myfyriwr ifanc ar ei wyliau oedd Bingley pan deithiodd o gwmpas gogledd Cymru y tro cyntaf. Roedd hynny yn y flwyddyn [[1798]], pan lesteirwyd pobl rhag mynd ar y ''Grand Tour'' ffasiynol arferol gan yr helyntion ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn Ffrainc oherwydd y [[Chwyldro Ffrengig]]. Ac eithrio [[Thomas Pennant]], Bingley yw un o'r teithwyr cynharaf i gofnodi ei brofiad o deithio yng Nghymru; arfer a ddaeth yn ffasiynol iawn dros y degawdau olynol a welodd gyhoeddi rhai dwsinau o lyfrau taith gan y twristiaid cynnar hyn. Ychydig o werth sydd i'r rhan fwyaf o'r cyfrolau, ond mae llyfr Binlgey, ''Tour round North Wales'' ([[1800]]), yn wahanol. Mae pennodau fel ei daith i ben [[Yr Wyddfa]] i chwilio am blanhigion prin yn sefyll allan. Mae ganddo hanesion am leoedd a phobl hefyd, wedi'i sgwennu mewn arddull bywiog gan rywun a ymddiddorai yn y Cymry a'u traddodiadau.
 
CyhoedoddCyhoeddodd ail gyfrol, ''North Wales Delineated from Two Excursions'', yn [[1804]]. Diddorol hefyd yw ei gyfrol arloesol ar gerddoriaeth Cymru, ''Sixty of the Most Admired Welsh Airs''.
 
==Llyfryddiaeth==