Enseffalitis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro cyfeiriadau
Llinell 14:
[[Llid (chwyddo)|Llid]] [[meinwe]]'r [[ymennydd]] yw '''enseffalitis''', ag achosir gan naill ai [[haint]], [[firws|firaol]] fel arfer, neu gan [[clefyd awtoimiwn|glefyd awtoimiwn]].<ref name="cyflwyniad"/>
 
Er bod enseffalitis ar y cyfan yn glefyd anghyffredin iawn, mae'n effeithio ar bobl o bob oedran ar draws y byd. Yn [[y Deyrnas Unedig]] mae'n effeithio ar tua 4 o bob 100,000 o bobl bob blwyddyn.<ref name="cyflwyniad">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/smallEncyclopaedia/cye/hafan/gwyddoniaduriechyd/earticle/enseffalitis/cyflwyniad#Cyflwyniad |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Cyflwyniad |dyddiadcyrchiad=67 AwstMedi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Achosion==
[[Feirws|Firysau]] cyffredin gan amlaf sy'n gyfrifol am enseffalitis firaol. Mae'r rhain yn cynnwys [[y frech goch]], [[brech yr ieir]], [[y ffliw]], [[rwbela]], firysau [[polio]], [[enterofeirws|enterofirysau]], [[herpes simplecs]], [[epstein bar]], a [[clwy'r pennau|chlwy’r pennau]]. Gall ddiffyg [[system imiwnedd|imiwnedd]] difrifol, [[HIV]] er enghraifft, achosi enseffalitis i ddatblygu o lawer o firysau a heintiau megis [[tocsoplasmosis]] a [[sytomegalofirws]] (CMV). Gall pobl sydd â HIV hefyd gael enseffalitis o HIV ei hun.<ref name="achosion">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/smallEncyclopaedia/cye/hafan/gwyddoniaduriechyd/earticle/enseffalitis/achosion#Achosion |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Achosion |dyddiadcyrchiad=57 AwstMedi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Caiff [[enseffalitis arbofirws]] ei achosi gan grŵp o firysau sy’n cael eu cario a'u trosglwyddo drwy bigiadau gan rai [[arthropod]]au, yn cynnwys [[mosgito]]s a [[trogen|throgod]].<ref name="achosion"/>
Llinell 26:
 
==Symptomau==
Gall [[symptom]]au cynnar enseffalitis, sy'n datblygu mewn ychydig oriau neu dros ychydig ddyddiau, ymddangos yn gyntaf fel symptomau'n debyg i'r ffliw neu feirws cyffredin. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys [[cur pen eithafol]], [[twymyn]], [[cyfog]], [[chwydu]], teimladau cysglyd, a dryswch. Gall enseffalitis effeithio ar bron unrhyw un o swyddogaethau'r ymennydd yn ddifrifol gyda chanlyniadau megis sensitifrwydd i oleuadau llachar, [[colli cof]], colli rheolaeth dros weithgareddau corfforol megis siarad a symud, newidiadau i'r synhwyrau, gwddf a chefn anystwyth, gwendid cyhyrol, [[ffit]]iau, ac hyd yn oed teimladau o [[cysgadrwydd|gysgadrwydd]] a all arwain at [[coma|goma]]. Amrywiol yw canlyniadau'r afiechyd i'r dioddefwyr: maen'n bosib i nifer o bobl gwella'n llwyr o achos ddifrifol o'r salwch, ond mewn rhai achosion bydd cleifion yn cael eu gadael â niwed difrifol i'r ymennydd neu allai enseffalitis hyd yn oed profi'n farwol.<ref name="symptomau">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/smallEncyclopaedia/cye/hafan/gwyddoniaduriechyd/earticle/enseffalitis/symptomau#Symptomau |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Symptomau |dyddiadcyrchiad=57 AwstMedi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Diagnosis==
Gwneir [[diagnosis meddygol|diagnosis]] o enseffalitis gan ddefnyddio [[pigiad meingefnol]] (tap sbinol), lle archwilir [[hylif serebro-sbinol]] o'r asgwrn cefn am dystiolaeth o haint. Os oes haint bacteriol bydd cynnydd yn nifer [[celloedd gwyn]] y gwaed yn yr hylif, ac yna gellir diystyru cyflyrau eraill megis [[tiwmor ar yr ymennydd]], [[sglerosis ymledol]] neu [[strôc]]. Caiff prawf ei wneud ar yr hylif am ronynnau firaol hefyd, yn enwedig y feirws herpes simplecs. Yn ogystal gwneir profion [[gwaed]] er mwyn diystyru achosion o enseffalitis nad ydynt yn firaol, megis [[enceffalopathi metabolig]].<ref name="diagnosis">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/smallEncyclopaedia/cye/hafan/gwyddoniaduriechyd/earticle/enseffalitis/diagnosis#Diagnosis |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Diagnosis |dyddiadcyrchiad=137 AwstMedi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Mae meddygon hefyd yn defnyddio sganiau [[sgan CT|CT]] ac [[sgan MRI|MRI]] i wneud diagnosis o enseffalitis. Mae'r sganiau yn dangos mannau o chwyddo ac [[edema]] (dropsi) yn yr ymennydd, sydd o gymorth wrth wahaniaethu rhwng enseffalitis ac afiechydon eraill megis tiwmor neu strôc. Gall electroenseffalogram (EEG) hefyd helpu i gadarnháu diagnosis drwy gofnodi unrhyw batrymau anarferol (cynnydd neu ostyngiad annormal) o weithgarwch trydanol yn yr ymennydd.<ref name="diagnosis"/>
Llinell 36:
 
==Triniaeth==
Cyn i glaf sy'n dioddef o enseffalitis syrthio i goma yw'r cyfnod sydd â'r cyfle gorau i wella'n llwyr o'r afiechyd. Yn y Deyrnas Unedig mae'n rhaid i gleifion a dybir bod enseffalitis ganddynt i fynd i mewn i'r ysbyty.<ref name="triniaeth">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/smallEncyclopaedia/cye/hafan/gwyddoniaduriechyd/earticle/enseffalitis/triniaeth#Triniaeth |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Triniaeth |dyddiadcyrchiad=137 AwstMedi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Trinir enseffalitis firaol sydd wedi'i achosi gan herpes simplecs gyda'r cyffur gwrthfiraol [[Acyclovir]], sy'n cael ei roi bron ar unwaith os tybir achos o enseffalitis gan taw prin yw [[sgîl-effeithiau]]'r cyffur. Rhoddir drwy bigiad i wythïen ac os yw'n cael ei roi'n ddigon cynnar, gall leihau cymhlethdodau eraill. Mae Acyclovir yn hynod o effeithiol yn erbyn enseffalitis herpes simplecs ond nid yw mor effeithiol yn erbyn firysau eraill.<ref name="triniaeth"/>