Yr Eglwys Fore: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn Tagiau: Golygiad cod 2017 |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:54, 16 Medi 2018
Enw ar yr eglwys Gristnogol yn ystod ei chyfnod cynharaf, o'r 1g hyd at y 4g neu'r 5g, yw yr Eglwys Fore neu'r Eglwys Gyntefig. Rhennir hanes yr Eglwys Fore yn yr Oes Apostolaidd (1g), yr Oes Gyn-Nicaeaidd (2g hyd at Gyngor Cyntaf Nicaea yn 325), ac Oes Gristnogol yr Henfyd Diweddar (Cyngor Nicaea hyd at gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn 476).