Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
21ain ganrif
Llinell 1:
::''Mae'r erthygl hon yn ymwneud â hanes Cymru. Am y Gymru gynhanesyddol, gweler [[Cynhanes Cymru]].''{{Hanes Cymru}}
Er nad yw'n wlad fawr o ran ei maint, mae '''hanes Cymru''' yn hir a diddorol. Gellid dadlau fod hanes [[Cymru]] fel gwlad, neu egin-wlad, yn dechrau yn ystod cyfnod rheolaeth yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Credir fod [[Cristnogaeth]] wedi ymgartrefu yng Nghymru tua diwedd y cyfnod hwnnw ac arferir galw y cyfnod olynol yn [[Oes y Seintiau yng Nghymru|Oes y Seintiau]]. Yng nghyfnod y seintiau cynnar gwelwyd newidiadau sylfaenol ym [[Ynys Brydain|Mhrydain]] o dan bwysau'r goresgyniad [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] yn ne a dwyrain yr ynys a mewnfudo gan [[Gwyddelod|Wyddelod]] i Gymru a gorllewin [[yr Alban]].
 
Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, fe dyfodd nifer o freniniaethau - yng Ngwynedd, Powys, Dyfed a Deheubarth. Roedd gan y brenhinoedd hyn eu heglwysi, eu cyfreithiau a'u llysoedd eu hunain, gyda safon byw a diwylliant uchel. Erbyn yr [[8fed ganrif]], pan godwyd [[Clawdd Offa]], roedd tiriogaeth Cymru yn ddiffiniedig a'r [[Oesoedd Canol]] wedi dechrau. Yn sgîl y goresgyniad [[Normaniaid|Normanaidd]] newidiodd patrwm llywodraethu Cymru a dechreuodd ei harweinwyr pendefigol galw eu hunain yn dywysogion yn hytrach na brenhinoedd; gelwir y cyfnod hwnnw yn "[[Oes y Tywysogion]]". Yn [[yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru]] ar ôl cwymp [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'i frawd [[Dafydd ap Gruffudd]] gwelid cyfnod ansefydlog dan reolaeth coron Lloegr. Arweiniodd [[Owain Glyndŵr]] wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Saeson ac yn ddiweddarach enillodd [[Harri Tudur]] [[Brwydr Bosworth|Frwydr Bosworth]] gan sefydlu [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].
Llinell 105:
 
Ar droad y ganrif yr oedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o [[eglwys]]. Yn [[1900]] roedd gan y [[Methodistiaid Calfinaidd]] 158,111 o aelodau, yr [[Annibynwyr]] 144,000 a'r [[Bedyddwyr]] 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlun o ddirywiad enbyd a geir.
 
== 21ain ganrif ==
{{Prif|Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru}}
[[Delwedd:Senedd.jpg|170px|bawd|Adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]]
Dangosodd [[Cyfrifiad 2001]] gynydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, gyda 21% o'r boblogaeth 3 oed a hŷn yn galu'r iaith, i gymharu â 18.7% ym 1991 ac 19.0% ym 1981. Mae hyn yn gyferbyniad i'r patrwm o leihad yn nifer y siaradwyr trwy gdol yr [[20fed ganrif]].<ref>[http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=447 Results of the 2001 Census from www.statistics.gov.uk]</ref>
 
Bu nifer o ddatblygiadau ô nôd yn brifddinas wedi agoriad [[Stadiwm y Mileniwm]] ym 1999,<ref>[http://www.millenniumstadium.com/3473_3514.php Millennium Stadium website]</ref> megis agoriad [[Canolfan y Mileniwm]] ym 2004 fel canolfan ar gyfer cynnal diwgwyddiadau diwyllianol. Cwblhawyd adeilad newydd Senedd [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ym mis Chwefror 2006 ac agorwyd yn swyddogol ar [[Dydd Gŵyl Dewi|Ddydd Gŵyl Dewi]] yr un flwyddyn.<ref>[http://www.publicinformation.wales.gov.uk/scripts/viewnews.asp?NewsID=581 The New National Assembly for Wales Senedd opened on St David’s Day]</ref>
 
Enillodd [[Deddf Llywodraeth Cymru 2006|Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006]] [[Cydsyniad Brenhinol]], roedd hyn yn golygu y byddai'r Frenhines yn cael ei adnabod fel ''Her Majesty in Right of Wales'' o Mai 2007 ymlaen, a byddai'n penodi gwinidogion Cymreig ac arwyddo Gorchmynion Cymreig yn y Cyngor. Roedd hefyd yn darparu'r posibilrwydd o gynnal refferendwm yn y dyfodol i ofyn i bobl Cymru os fyddent eisiau i'r Cynulliad allu ennill fwy o bwerau megis y gallu i basio deddfwriaeth cynradd, h.y. y gallu i greu cyfreithiau Cymreig.
 
==Cyfeiriadau==