Injan stêm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 1:
Math o [[trên|drên]] a gaiff ei yrru gan [[stêm]] neu ager yw '''injan stêm'''.
 
==TriniaethTrin==
Nid yw trin injan stêm yn debyg o gwbl i drin car.
 
Llinell 22:
Trwy fod yn gelfydd wrth cyflenwi dŵr a glo i'r bwyler gellir cael llawer mwy o egni allan o'r injan dros dro nag a fedrir dros y cyfnod hir. Er engraifft, os bydd allt serth ond cymharol fer i'w chael yn ystod y daith bydd y taniwr yn adeiladu tan mawr a gwneud yn siwr fod lefel y dŵr yn y bywler yn uchel. Pan yn dringo'r allt - ac felly angen llawer o ynni - ni bydd yn cyflenwi dŵr nac yn rhoi glo ar y tan ond bydd yn gadael i'r injan "fyw ar ei bloneg" am gyfnod. Dyma wir grefft tanio injian stem, sef medru rhagweld pa bryd y bydd angen yr ymdrech fwyaf a pharatoi amdani.
 
O safbwynt gyrru injan stem, y mae gan y gyrrwr nifer o bethau i'w cadw mewn golwg gan gynnwys cadw golwg ar waith y taniwr, rheoli llifiad yr ager o'r bwyler i silindrau, cyweirio y modd y mae'r falfiau yn torri llifiad yr ager i'r silindr ac yn y blaen. Pwrpas y ger falf (sef y casgliad o rodiau ac ati a welir o flaen yr olwynion neu o fewn y ffram, ydyw nid yn unig penodi y cyferiad y bydd yr injan yn symud ynddo ond hefyd pa faint o ager a ddefnyddir. Wrth gychwyn, ni bydd mewnlifiad y stem i fewn i'r silindr yn cael ei dorri'n gynnar (er mwyn yr ymdrech fwyaf) ond wrth i'r injian gyflymu bydd y torriad yn cael yn osod yn gynt, fel bod y stem yn ymchwyddo tra'n gwthio'r pistwn.
 
Os bydd lle i gredu fod dwr yn y silindrau (er engraifft ar gychwyn pan fydd ager yn troi'n ddwr wrth gysylltu a'r silindr oer, neu os daw dwr drosodd gyda'r ager o'r bwyler), y mae'n rhaid agor y feis gollwng dwr sydd yng ngwaelod y silindrau (gweler uchod).
[[Categori:Trenau]]