Gwireb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llenyddiaeth: clean up, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB
gwahaniaethu
Llinell 1:
:''Erthygl am y defnydd llenyddol o'r gair 'gwireb' yw hon; am y defnydd [[mathemateg]]ol, gweler [[Gwireb (mathemateg)]].''
Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw '''gwireb'''.<ref>Morgan D. Jones. ''Termau Iaith a Llên'' ([[Gwasg Gomer]], 1972), tud. 77.</ref> Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r [[dihareb|ddihareb]] ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.