Trychineb naturiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: sl:Naravna katastrofa |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: af:Natuurramp; cosmetic changes |
||
Llinell 1:
{{TOC dde}}
Mae perygl naturiol yn digwydd o ganlyniad i broses amgylcheddol, mae'r broses yma yn fwy na hyn a ddisgwylir o ran maint neu amlder. Mae'r prosesau yma yn cael effaith ar weithgaredd dynol.
== Peryglon Tectonig ==
=== Llifoedd Lafa ===
[[
[[Lafa]] yw [[magma]] sy'n llifo ar wyneb y ddaear. Fel rheol, cysylltir lafa gydag ymylon adeiladol (''gweler:[[Ffin Plât tectonig]]'') lle mae echdoriadau yn llai dinistriol heb fod
=== Lludw ===
Dyma sy'n ffurfio'r cymylau tywyll sydd i'w gweld yn ystod echdoriadau. Gall achosi marwolaethau wrth i adeiladau ddymchwel o dan bwysau'r lludw a mygu unrhyw un sydd yn y cyffiniau. Yn aml hefyd gall y lludw fod yn dwym iawn a gall losgi'r ardal o amgylch y llosgfynydd.
=== Llif pyroclastig ===
[[
Gall echdoriadau ffrwydrol chwythu allan cymysgedd o nwy a cherrig poeth (teffra). Adnabyddir hyn fel llif pyroclastig. Gall tymheredd o fewn llif pyroclastig gyrraedd tymereddau mor uchel â 800 °C a gall deithio ar gyflymder o 200km/awr wrth iddo lifo lawr ochor y llosgfynydd.
Rheolir cyflymder y llif gan ddwysedd y cwmwl, cyfradd rhyddhad y nwy allan o'r llosgfynydd a graddiant ochrau'r llosgfynydd. Yn aml mae'n digwydd pan mae'r gromen lafa yn mynd yn ansefydlog ac yn dymchwel i lawr ochrau'r llosgfynydd. Mae ei gyflymder yn ei wneud yn beryglus dros ben.
=== Lahar ===
Mae lahar yn ffurfio pan mae lludw yn cyfuno â dŵr gan greu slyri poeth trwchus. Gall lifo'n eithriadol o gyflym a chasglu'n ddi-rybydd mewn dyffrynnoedd gan foddi'r trigolion, fel y digwyddodd yn [[Armero]], [[Columbia]] lle lladdwyd 22,000 o bobl mewn ychydig funudau. Daw'r dŵr wrth i eira a ia doddi ar lethrau'r llosgfynydd. Yn ogystal mae llynnoedd rhewlifol yn ffynhonnell arall o ddŵr.
=== Tir gryniad ===
Dyma sy'n digwydd yn ystod daeargryn wrth i'r tir ysgwyd a dinistrio adeiladau. Mae tir gryniad yn dinistrio a difrodi adeiladau. Rheolir dwysedd y tir gryniad gan nerth y daeargryn.
=== Hylifoli ===
Yn ystod daeargryn mae'r dŵr sydd yn y ddaear yn cael ei dynnu i'r wyneb gan danseilio adeiladau a gwneud iddynt suddo a chwympo. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd lle mae'r creigiau'n wan a meddal.
== Peryglon Dŵr ==
=== Llifogydd ===
Weithiau mae gormodedd o law yn disgyn ar dir dirlawn gan achosi i lefel afonydd fod yn uchel iawn. Pan mae yna ormod o ddŵr mewn afon, mae'n gorlifo gan lifogi'r ardal leol. Gall yr ardaloedd yma fod yn aneddiadau a gall gael effaith ar nifer o bobl. Wrth i systemau carthffosiaeth cael eu gorlifo, gall hyn ledaeni afiechydon megis colera sy'n beryglus i bobl.
=== Echdoriadau llyn ===
Mae dŵr yn amsugno C0<sub>2</sub>, ac felly pan leolir aneddiad yn agos i lyn mae'r crynodiad CO<sub>2</sub> yn eithaf uchel. Mae'r trychineb yma yn digwydd pan mae C0<sub>2</sub> yn echdorri yn gyflym o'r llyn ac yn gwenwyno anifeiliaid, pobl a phlanhigion.
[[
=== Eirlithrad ===
Dyma beth sy'n digwydd pan ceir gormodedd o eira yn casglu ar ben mynydd ac yn dymchwel gan greu llif cyflym o eira ac iâ. Nid oedd yna berygl ers talwm oherwydd nid oedd y mynyddoedd yn breswylied. Ar y llaw arall, erbyn hyn, mae yna nifer o aneddiadau a chyrchfannau uwch yn y mynyddoedd ar gyfer gweithgareddau gaeaf fel sgïo. Mae hyn yn cynyddu'r risg o farwolaeth pan mae eirlithrad yn digwydd.
=== Tsunami ===
Mae tsunami yn berygl eilaidd sy'n digwydd wrth i ddirgryniadau daeargryn greu tonnau ar y môr sy'n gorlifo'r tir. Gall hyn ladd pobl sydd ar yr arfordir pan ddaw'r tonnau.
== Tywydd ==
[[
=== Storm eira ===
Mae storm eira yn storm aeafol eithriadol sy'n nodweddiadol o dymheredd isel, gwyntoedd cryfion ac eira sy'n chwythu'n gyflym. Mae hyn yn digwydd pan mae system gwasgedd uchel yn rhyngweithio efo system gwasgedd isel. Caiff niferoedd mawr eu lladd pan mae tywydd eithafol fel hyn yn stelcian am amser hir oherwydd gall y stormydd yma gael effaith ar gyflenwadau pŵer a thanwydd sy'n hanfodol.
=== Sychder ===
Mae sychder yn digwydd pan mae yna gyfnod estynedig o dywydd sych. Mae hyn yn cael effaith ar gyflenwadau dŵr a chyflenwadau bwyd ac felly gall fod yn farwol. Caiff sychder fwy o effaith ar wledydd llai datblygedig yn economaidd na gwledydd mwy datblygedig yn economaidd.
=== Cesair ===
Mae hyn yn fath o ddyodiad sy'n cynnwys lympiau o iâ sy'n disgyn o'r awyr. Mae diamedr y lympiau afreolaidd yma yn amrywio o 5- 150 milimedr ac mae'r lympiau mwyaf yn dod o stormydd eithafol. Gall y cesair fwyaf fod yn farwol os ydynt yn taro rhywun ac maent yn gallu gwneud llawer o ddinistr i eiddo personol.
=== Tôn wres ===
Mae tôn wres yn gyfnod estynedig o dywydd eithriadol o dwym. Gall hyn gael effaith ar bobl enwedig yr henoed efo cyflyrau megis strociau gwres. Gall hefyd gael effaith ar gyflenwadau dŵr, pŵer ac ar isadeiledd. Er bod nifer yn manteisio ac yn mwynhau cyfnodau twym, dyma'r trychineb sy'n lladd llawer dros barhad y cyfnod.
=== Tân ===
Gall hinsawdd dwym gychwyn tân mewn ardaloedd gwledig sy'n gallu gwasgaru i ardaloedd poblog megis trefi a dinasoedd.
== Iechyd ac afiechyd ==
[[
=== Epidemig ===
Dyma pan mae afiechydon yn gwasgaru trwy boblogaethau o bobl ac yn bygwth bywydau pobl. Mae epidemig yn digwydd pan mae afiechyd yn lledaeni trwy'r boblogaeth yn gyflymach na beth mae doctoriaid yn rhagdybio.
=== Newyn ===
Mae newyn yn digwydd pan nad oes yna ddigon o fwyd i fwydo poblogaeth gwlad. Mae hyn yn digwydd ar raddfa eang mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig.
[[Categori:Daearyddiaeth]]
[[af:Natuurramp]]
[[an:Desastre natural]]
[[ar:كارثة طبيعية]]
|