Tochareg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
== Darganfod Tochareg ==
[[Delwedd:Tocharic.jpg|200px|bawd|Rhan o hen lawysgrif Dochareg, 7fed ganrif neu'r 8fed]]
Ar ddiwedd y [[19eg ganrif]] roedd anturiaethwyr, yn eu plith y DanwrSwedwr [[Sven Anders Hedin|Sven Hedin]], wedi cyhoeddi bod olion gwareiddiad hynafol anhysbys i'w gweld dan dywod basn [[Tarim]] ger yr hen ffordd garafan sy'n rhedeg trwy'r trefi ''oasis'' [[Kusha]], [[Karashahr]] a [[Turfan]], rhwng 400 a 800 milltir i'r dwyrain o [[Kashgar]] (Ko'shin) ar ymyl ogleddol Anialwch [[Takla Makan]], gorllewin Tseina. Enynwyd diddordeb archaeolegwyr ac aeth sawl tîm archaeolegol i'r ardal yn yr [[1890au]] a'r [[1910au]]. Darganfuwyd nifer o ddogfennau mewn sawl iaith, gan gynnwys [[Iraneg]]; yn eu plith roedd nifer o ddogfennau mewn iaith anhysbys. Roeddynt yn dyddio o'r [[7fed ganrif]] a'r [[8fed ganrif]], wedi eu hysgrifennu mewn [[ysgrifen]] Ogledd Indiaidd o'r dosbarth [[Brahmi]]. Roedd rhai o'r testunau yn gyfieithiadau o weithiau [[Sansgrit]], gan gynnwys testunau dwyieithog o'r iaith newydd a'r testunau Sansgrit gwreiddiol, ffaith a alluogodd ieitholegwyr i darllen yr iaith ddiarth a chynnig ei chyfieithu. Rhoddwyd yr enw "Tochareg" i'r iaith honno oherwydd cyfeiriad tybiedig ati mewn nodyn mewn llawysgrif [[Uigur]]. Tybiwyd mai iaith y ''[[Tocharoi]]'', pobl o [[Canolbarth Asia|Ganolbarth Asia]] y mae'r daearyddwr clasurol [[Strabo]] yn cyfeirio atynt, ydoedd a'i bod yn perthyn i'r [[ieithoedd Iranaidd]]. Ond sylweddolwyd yn fuan nad oedd Tochareg yn perthyn yn agos i unrhyw iaith Indo-Ewropeaidd arall ac felly fe'i rhoddwyd mewn dosbarth ar wahân. Y syndod mwyaf oedd bod y gair Tochareg am "cant", ''känt'', yn dangos ei bod yn perthyn i'r is-deulu Indo-Ewropeaidd gorllewinol (grŵp ''centum''). Mae elfennau o'r Dochareg yn gyffelyb i'r hyn a geir yn yr ieithoedd [[Celteg]] ac [[Italeg]] yn ogystal. Sylweddolwyd yn gynnar fod y Dochareg yn cael ei rhannu'n ddwy iaith (er bod rhai'n dadlau mai tafodieithoedd cryf ydynt yn hytrach nag ieothoedd annibynnol) a rhoddwyd yr enwau "Tochareg A" a "Tochareg B" arnynt. Fe'i gelwir hefyd yn "Twrffanaeg" (iaith Turfan) a "Cwshaeg" (iaith Kusha). Yn y gorffennol roedd [[Iraneg]] yn cael ei siarad i'r gorllewin o fasn Tarim a cheir geiriau o darddiad Iraneg yng ngeirfa'r Dochareg. Uigur sy'n cael ei siarad yn yr ardal heddiw.
 
== Tochareg A (Twrffanaeg) ==