Avant-garde: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 12:
Her oesol yr avant-garde yw y bydd syniadaeth ac yn enwedig celf a cherddorieth, yn aml, yn dod brif-ffrwd. Bryd hynny, y cwestiwn mawr yw: a yw'r datblygiad yn y gelfyddyd honno'n avant-garde neu beidio?
 
Nodwyd hyn gan ddeallusion [[Ysgol Frankfurt]] yn yr [[1930au]] a'r [[1940au]]. Gwelir y feirniadaeth a'r drafodaeth hyn yng ngwaith [[Theodor Adorno]] a [[Max Horkheimer]] yn eu traethawd, ''The Culture Industry: Enlightenment as Mass-Deception'' (1944), a hefyd Walter Benjamin yn ei waith dylanwadol iawn, ''The Work of Art in the Age of Mechanical Reproductio'' (1935, adolygwyd, 1939).<ref>http://hgar-srv3.bu.edu/collections/partisan-review/search/detail?id=283920</ref> Mae Greenberg yn defnyddio'r gair Almaeneg 'kitsch' i ddisgrifio'r gwrthwyneb llwyr i ddiwylliant avant-garde, a bathodd aelodau Ysgol Frankfurt y term, ''diwylliant torfol'' (mass culture) i gyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn gyson cael ei chynhyrchu gan y diwydiant diwylliant newydd (oedd yn cynnwys geist masnachol, y diwydiant ffilm, y diwydiant recordiau cerddoriaeth pob a'r cyfryngau megis teledu a radio).<ref>http://www.sociosite.net/topics/texts/adorno_culture_reconsidered.pdf</ref> Cyfeirion nhw at dwf diwydiant yma a olygai fod rhagoriaeth celfyddydol yn cael ei fesur wrth ei werth ariannol: gwerth nofel oedd ei werthiant; cerddoriaeth os oedd yn ennill 'disg aur' ac ar frig y siartiau. Yn y ffordd yma, roedd gwerth artistig gelfyddydol oedd mor bwysig i'r avanguardiaid yn cael ei golli a gwerthiant yn dod yn unig wir ffordd o fasur llwyddiant a gwerth unrhyw beth. Roedd diwylliant comsiwmer nawr yn rheoli.<ref>http://www.sociosite.net/topics/texts/adorno_culture_reconsidered.pdf</ref>
 
===Cerddoriaeth===