Afon Mawddach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cwrs yr afon: Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Llinell 8:
Ar ôl i [[Afon Eden (Gwynedd)|Afon Eden]] ymuno â hi mae'r Fawddach yn llifo yn ei blaen tua'r de trwy bentref [[Ganllwyd]], dan gysgod [[Y Garn (Rhinogydd)|Y Garn]], mae'n cyrraedd [[Llanelltyd]]. Yno y ceir safle hen gored ar yr afon oedd ar un adeg yn perthyn i [[Abaty Cymer]], hen sefydliad [[Urdd y Sistersiaid|Sistersiaidd]] a fu'n gefnogol iawn i dywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]; saif ei adfeilion ar y lan ddwyreiniol. Mae'r afon yn mynd heibio i hen blasdy [[Hengwrt]], cartref y Fychaniaid gynt, noddwyr llên a diwylliant Meirionnydd, cyn ymuno ag [[Afon Wnion]] ym Maes y Garnedd.
 
Ar ran olaf ei thaith mae'n troi tua'r gorllewin i Benmaenpŵl, gan redeg dan yr hen bont doll, lle mae'r aber yn dechrau. Am y pedair milltir olaf mae'r afon yn ymledu'n sylweddol gyda bryniau [[Cadair Idris]] i'r de a [[Llawlech]] a [[Diffwys]], dau o copaongopaon [[Ardudwy]], i'r gogledd. Yna mae'n llifo dan bont reilffordd [[Abermaw]] i aberu ym [[Bae Ceredigion|Mae Ceredigion]].
]]