Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anarchiaeth"

No change in size ,  blwyddyn yn ôl
B
→‎Anarchiaeth Gymdeithasol: Golygu cyffredinol (manion) using AWB
B (Bot: Migrating 105 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6199 (translate me))
B (→‎Anarchiaeth Gymdeithasol: Golygu cyffredinol (manion) using AWB)
Mae'r modd o gyrraedd y gymdeithas yn holl bwysig i anarchiaeth gan ei fod yn adlewyrchu egwyddorion yr ideoleg. Gwrthwyneba anarchiaeth gymdeithasol pleidiau gwleidyddol oherwydd eu natur gyfunol, hierarchaidd, yn enwedig felly'r blaid ganolig, blaengad Marcsiaeth-Leninaeth. Credir y dylai'r gweithwyr ei hun ymgymryd 'oll yn y chwyldro yn erbyn cyfalafiaeth - ac maent yn dal yr egwyddor yma yn gyson ar bob enghraifft o ormes, hynny bod rhaid i ddioddefwyr yr ormes eu hun dinistrio'r ormes. Os na, fe droiff ryddhawyr yn ormeswyr eu hun. Rhan hanfodol o arfer anarchwyr felly yw codi ymwybyddiaeth ymysg y boblogaeth o'u hachos a gweithredu trwy grwpiau gwirfoddol (yn aml dros dro) a weithiwyd mewn modd consensws, yn debyg i'r ffordd a rhagwelwyd cymdeithasau yn gweithredu mewn cymdeithas anarchol.
Oherwydd natur ddatganoledig a deinamig yr ideoleg, nid oes un ysgrifennwr gellid seilio syniadau anarchiaeth gymdeithasol arno. Pierre-Joseph Proudoun oedd un o'r ysgrifenwyr cyntaf, Ffrancwr cwestiynodd hawliau eiddo a ddywedodd yn enwog mai "lladrata yw eiddo" a wnaeth dylanwadu'n gryf ar sosialaeth. Yn y 19eg ganrif hefyd ceir y Slafiad Mikhail Bakunin a wnaeth dadlau'n danbaid efo [[Karl Marx]] gan achosi rhwygiad anarchiaeth o'r ''International'' cyntaf. Yn ystod cyfnod [[Vladimir Lenin]] a'r Bolsiefigiaid yn Rwsia fe ysgrifennodd Peter Kropotkin, wnaeth dadlau yn groes i ddehongliadau o ddetholiadau naturiol y pryd yn ei lyfr ''Mutual Aid'' bod cydweithredu (yn hytrach na chystadlu) yn naturiol. Fe hefyd cefnogodd anarchiaeth o safbwynt amaethyddol, yn groes i cysyniadaugysyniadau diwydiannol sy'n prif ffrwd yn ideolegau comiwnyddol. Yn ddiweddarach, enghraifft o ysgrifennwr anarchiaeth gymdeithasol fodern yw [[Noam Chomsky]], ieithydd arbenigol a feirniadai bolisïau tramor yr [[Unol Daleithiau]].
 
Anarchwyr eraill enwog yw'r llenor Rwsiaidd [[Leo Tolstoy]] (anarchydd Cristnogol) a'r llenor Gwyddelig [[Oscar Wilde]].
57,299

golygiad