Athelstan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Idwal Foel
Llinell 5:
Yn [[937]], gorchfygodd Aethelstan fyddin cynghrair rhwng [[Olaf III Guthfrithson]], brenin [[Llychlynwyr]] [[Dulyn]] ([[Gwŷr Dulyn]]), [[Causantín mac Áeda II]], brenin yr [[Alban]] ac [[Owain I, brenin Ystrad Clud|Owain I]], brenin [[Ystrad Clud]] ym [[Brwydr Brunanburh|Mrwydr Brunanburh]]. Yn dilyn ei fuddugoliaeth, defnyddiai'r teitl ''r[ex] tot[ius] B[ritanniae]'' ("brenin holl Brydain"). Bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac olynwyd ef gan ei hanner-brawd, [[Edmund, brenin Lloegr|Edmund]].
 
Ymddengys i holl frenhinoedd Cymru gydnabod awdurdod Athelstan. Dilynodd [[Hywel Dda]] bolisi o gyfeillgarwch gydag Athelstan, a chofnodir iddo ymweld a llys Athelstan nifer o weithiau. Arwyddodd nifer o ddogfennau gydag Athelstan, ac mewn rhai ohonynt disgrifir ef fel ''subregulus'' neu "is-frenin". Bu raid i [[Idwal Foel]] o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] dalu teyrnged i Aethelstan hefyd. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn 942.
 
{{eginyn Saeson}}