John Cale: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
4 brawd a dyddiau cyn coleg o'r Porth
Llinell 10:
[[Delwedd:John Cale 1.jpg|250px|upright|chwith|John Cale, 1977. Ffoto: Jean-Luc Ourlin]]
 
Mae Cale, a oedd yn unig blentyn, yn cofio pedwar brawd ei fam yn glir, yn eu plith Davey Davies a gynhyrchai, gyda'i wraig, Mai Jones, sioe radio adloniant ysgafn BBC Wales, Welsh Rarebit; hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth i ''We'll Keep a Welcome'', a glywyd gyntaf yn 1940. ‘Dyma beth oedd adloniant o ddifri', meddai Cale (Cale a Bockris 1999). Roedd ewythr arall, "dylanwad mawr iawn arnaf", yn canu'r ffidil, ac o ganlyniad dechreuodd Cale ddysgu’r piano a’r fiola yn y man.<ref>[https://wici.porth.ac.uk/index.php/Cale,_John
 
Roedd cerddoriaeth ac addysg o’i gwmpas ym mhobman wrth iddo dyfu, ac aeth yn ei flaen o Ysgol Gynradd Sirol y Garnant i Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Bu cyfres o drafferthion personol pan oedd oddeutu’r 13 oed yn rhwystr i’w yrfa academaidd; ond maes o law enillodd Cale le i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Goldsmiths yn ne Llundain, lle bu’n astudio rhwng 1960 ac 1963.
Yn ystod ei blentyndod fe ymosodwyd arno'n rhywiol gan ddau dyn gwahanol, un ohonynt yn weinidog Anglicanaidd, o fewn eglwys.<ref name="sed24" /><ref name="basement">MarkMordue.com page: "[http://www.markmordue.com/2010/02/cold-black-style-john-cale-interview.html Cold, Black Style: The John Cale Interview]."</ref>
 
Wedi darganfod ei dalent yn chwarae'r fiola, astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain. Yno, cyfrannodd at gyflwyno cerddoriaeth fodernaidd ac avant-garde ei ddydd, gan gynnwys ei waith ei hun. Yn sgil cyfarfod ag Aaron Copland cafodd le yng Nghanolfan Gerddoriaeth Berkshire yn Tanglewood, Massachusetts, ond buan y symudodd i Efrog Newydd, a fu ers hynny’n ganolbwynt daearyddol i’w fywyd. Cydweithiodd â'r mudiad avant garde Fluxus gan drefnu un o'u cyngherddau cynnar ym 1964.<ref>Fluxus Codex, Jon HEndricks, Harry N Abrams 1988 p221</ref> Gyda chymorth y cyfansoddwr Americanaidd enwog [[Aaron Copland]] fe deithiodd i'r [[Unol Daleithiau]] i barhau ei astudiaethau cerddorol.
 
Yn [[Efrog Newydd]] cyfarfu â nifer o gyfansoddwyr dylanwadol gan gymryd rhan mewn cyngerdd piano 18 awr o ''Vexations'' gan [[Erik Satie]]. Yn dilyn y gyngerdd fe ymddangosodd ar y rhaglen deledu ''I've Got a Secret'' – ei gyfrinach ei fod o wedi perfformio mewn cyngerdd 18 awr.<ref>YouTube: [http://www.youtube.com/watch?v=TYHIqMmtS-0 John Cale on ''I've Got a Secret''].</ref> Bu hefyd yn chwarae mewn ensemble ''Theatre of Eteranal Music/Dream Syndicate'': roedd eu cerddoriaeth drôn yn ddylanwad ar y Velvet Underground yn ddiweddarach. Un o'i gydweithwyr cynnar oedd [[Sterling Morrison]] a ddaeth yn gitarydd y Velvet Underground.