La Liga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 17:
}}
 
Y '''Primera División''' ([[Cymraeg]]: ''Adran Gyntaf'') o'r ''Liga Nacional de Fútbol Profesional (LFP)'', sy'n cael ei adnabod fel '''La Liga''', yw prif adran system [[pêl-droed|bêl-droed]] [[Sbaen]] ac fe'i hadnabyddir, am resymau nawdd, fel Liga BBVA (Cynghrair BBVA). Fe'i gweinyddir gan [[Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen]], yr RFEF.
 
Mae 20 tîm yn yr adran gyda'r tri tîm sy'n gorffen ar waelod yr adran yn disgyn i'r ''Segunda División'' (Ail Adran) ar ddiwedd y tymor gyda'r ddau dîm ar frig y ''Segunda'' ac enillydd gêm ail gyfle yn esgyn yn eu lle. Mae 60 o dimau gwahanol wedi cystadlu yn La Liga gyda naw tîm gwahanol yn cael eu coroni'n bencampwyr. [[Real Madrid]] a [[FC Barcelona|Barcelona]] sydd wedi rheoli'r bencampwriaeth gyda Real Madrid yn ei hennill 32 o weithiau a Barcelona 22 o weithiau.