Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delfrydiaeth, realaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 20:
==Rhyddfrydiaeth==
{{prif|Rhyddfrydiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)}}
Mae'r ddamcaniaeth ryddfrydol, neu ryngwladoldeb rhyddfrydol, yn tynnu ar athroniaethau gwleidyddol ac astudiaethau economaidd y 18g a'r 19g. Yr athronydd [[John Locke]] oedd arloeswr [[rhyddfrydiaeth glasurol]], a chyfranodd at syniadau'r [[cyfamod cymdeithasol]], [[gweriniaetholdeb]], ac [[hawliau naturiol]]. Amlinellir y gobaith am "heddwch parhaol" gan [[Immanuel Kant]] yn ei draethawd ''Zum ewigen Frieden'' (1795), sydd yn argymell cyfansoddiadau gweriniaethol a'r angen am gydsyniad y dinasyddion cyn i unrhyw wlad mynd i ryfel. Daw ysbrydoliaeth y rhyddfrydwyr mewn materion economaidd gan yr economegwyr gwleidyddol, yn bennaf [[Adam Smith]] a [[Richard Cobden]]. Yn ei gampwaith ''The Wealth of Nations'' (1776), disgrifia Smith y "[[llaw anweledig]]" sydd yn gyrru'r [[marchnad rydd|farchnad rydd]], a dadleua nad yw bywyd rhyngwladol yn "sero-swm", hynny yw nid yw enillion un dyn, cwmni, neu wlad o reidrwydd yn achosi colled i ddyn, cwmni, neu wlad arall. Gwleidydd a dyn busnes oedd Cobden, a hyrwyddai [[masnach rydd]] a chysylltiadau gonest rhwng gwledydd y byd i hybu diddordebau cyffredin ac heddwch.
 
Nid yw pob damcaniaeth rhyddfrydol ar gysylltiadau rhyngwladol yn gytûn, ond maent i gyd yn hyderu ym mhosibiliadau "Cynnydd". Mae rhyddfrydwyr yn rhoi sylw i sawl haen o gymdeithas. Pwysleisir gallu'r unigolyn i wella'i wladwriaeth, drwy [[rhesymu|reswm]] a [[moesoldeb]]. Yn ôl y ddamcaniaeth ryddfrydol, mae'r wladwriaeth yn bodoli er budd yr unigolyn, i sicrhau ei hawliau a'i ryddid. Nid yw'r wladwriaeth ryddfrydol yn nod ynddi'i hun, ond yn fodd o ennill heddwch a democratiaeth, yr un syniad o'r heddwch democrataidd a arddelai gan y delfrydwyr. Yn ogystal, mae'r [[trefn ryngwladol|drefn ryngwladol]] yn agwedd hollbwysig o heddychu'r byd, drwy gynnig sefydliadau rhynglywodraethol ac uwchgenedlaethol a'r gyfraith ryngwladol i ddatrys anghydfodau rhwng gwladwriaethau ac i osgoi rhyfel.
 
Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, bu cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng syniadau'r delfrydwyr a'r hyn a elwir yn rhyngwladoldeb rhyddfrydol. Bu meddylfryd [[Woodrow Wilson]], Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn manylu ar y dadleuon rhyddfrydol drwy ei bolisi tramor a elwir yn [[Wilsoniaeth]]. Gwelsai Wilson yr hen ddiplomyddiaeth yn seiliedig ar ''Realpolitik'' [[awtocratiaeth|awtocrataidd]] ac ymrysonau'r [[brenhiniaeth]]au, a'r fath systemau oedd yn gyfrifol am achosi rhyfel. Dadleuai taw democratiaeth a chydsyniad y bobl oedd y ffordd ymlaen i sicrhau heddwch. Efe oedd prif arweinydd Cynghrair y Cenhedloedd, er i [[Senedd yr Unol Daleithiau]] wrthod i'r wlad honno ymuno â'r sefydliad. Nod Wilson oedd i'r Cynghrair magu trefn ddiplomyddol newydd o gyd-ddiogelwch, gan roi'r gorau i'r hen [[cynghrair milwrol|gynghreiriau milwrol]] a oedd yn sbarduno [[ras arfau|rasys arfau]]. Y brif broblem a wynebai'r Cynghrair oedd yr angen am aelodaeth gan bob un wladwriaeth ar draws y byd, er iddo wahardd ambell wlad gan gynnwys yr Almaen a'r Undeb Sofietaidd rhag ymuno. Hefyd bu'n dibynnu ar rym milwrol i rwystro ac i gosbi'r gwladwriaethau oedd yn aflonyddu'r drefn, ond methodd y Cynghrair i atal goresgyniad Abysinia gan yr Eidal yn 1935.
 
===Neo-ryddfrydiaeth===