Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 30:
{{prif|Neo-ryddfrydiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)}}
 
== Yr Ysgol Seisnig ==
{{prif|Yr Ysgol Seisnig (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)}}
Cychwynnodd damcaniaeth "yr Ysgol Seisnig" yn [[Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain]] (LSE) yn y 1950au, a daw'r enw o'r ffaith roedd nifer o'i phrif ffigurau, er nad oeddent i gyd yn Saeson, yn gweithio yn [[Lloegr]], yn enwedig yr LSE a phrifysgolion [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]] a [[Prifysgol Caergrawnt|Chaergrawnt]].<ref>Brown, C. ac Ainley, K. ''Understanding International Relations'' (Palgrave Macmillan, 2009), t. 50.</ref> Ei helfen nodweddiadol yw cysyniad y [[cymdeithas ryngwladol|gymdeithas ryngwladol]].
 
Tynna'r Ysgol Seisnig ar resymoliaeth, un o'r tri thraddodiad a ddisgrifir gan [[Martin Wight]] yn ''International Theory: The Three Traditions'' (1990), ynghyd â realaeth a chwyldroadaeth. [[Hugo Grotius]] yw'r meddyliwr a gydnabyddir yn lladmerydd y rhesymolwyr, a'i waith ''De Jure Belli ac Pacis'' (1625; "Deddf Heddwch a Rhyfel") oedd yn hanfodol wrth ddatblygu "cyfreithiau gwledydd" ar sail deddf natur. Gweledigaeth yr Ysgol Seisnig felly yw trefn gyfreithiol ryngwladol sydd yn cynnwys pob un wladwriaeth. Un o hoelion wyth yr Ysgol Seisnig yw [[Hedley Bull]], a ddadansoddai anllywodraeth y system ryngwladol yn ei gampwaith ''[[The Anarchical Society]]'' (1977). Nod y gymdeithas ryngwladol yw adnabod diddordebau cyffredin a gwerthoedd cyfanfydol y ddynolryw, gosod rheolau ac egwyddorion y drefn ryngwladol, a chynnal sefydliadau rhyngwladol. Mae Bull yn ystyried rhyfel ei hun yn sefydliad rhyngwladol, wedi ei ffurfio i ddatrys gwahaniaethau grym ac i ennill diddordebau, ac yn dystoliaeth o'r gymdeithas ryngwladol.
 
Mae rhai wedi disgrifio'r Ysgol Seisnig yn gyfuniad o syniadau'r realwyr a'r rhyddfrydwyr. Yn debyg i realaeth, mae syniad y gymdeithas ryngwladol yn gosod y wladwriaeth yn brif [[gweithredydd (cysylltiadau rhyngwladol)|weithredydd]], ac yn cydnabod taw realiti grym sydd yn pennu [[diddordebau'r wlad]]. O ganlyniad, mae'r Ysgol Seisnig yn derbyn gwahaniaethau grym rhwng gwledydd, a phosibiliad rhyfel rhyngddynt. Mae'n rhannu sawl agwedd â'r ysgol ryddfrydol hefyd, yn bennaf y gobaith am leddfu'r anhrefn drwy'r gyfraith ryngwladol a diplomyddiaeth, a chyfuno rheolau er cyd-fodolaeth â'r cydbwysedd grym i greu drefn "gymdeithasol".
 
==Marcsiaeth==