Rachel Bilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eiri (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen Person | enw = Rachael Sarah Bilson | delwedd = | pennawd = | dyddiad_geni = Awst 25, 1981 | man_geni = [[Calif...'
 
Eiri (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
| galwedigaeth = [[Actores]]
}}
 
 
Mae Rachael Sarah Bilson (ganwyd ar Awst 25, 1981) yn actores Americanaidd. Ar ôl tyfu i fynny mewn teulu busnes sioe yng Nghaliffornia, fe ymddangosodd ar y teledu yn 2003 ac fe ddaeth hi’n enwog am chwarae Summer Roberts ar y gyfres The O.C. Fe ymddangosodd Bilson mewn ffilm yn 2006 yn y ffilm The Last Kiss ac fe serennodd yn y ffilm Jumper (2008).
 
 
==Bywgraffiad==
===Bywyd Cynnar===
Ganwyd Bilson yn Los Angeles, yn ferch i Janice, therapydd rhyw, a Danny Bilson, ysgrifennwr/cyfarwyddwr/cynhyrchydd. Mae tad Bilson yn Iddew Americanaidd ac mae ei mam yn Edalaidd-Americanaidd ond wedi ei geni yn Philadelphia. Mae tad Bilson yn dod o deulu busnes sioe; roedd ei hen-daid, George Bilson (ganwyd yn Leeds, West Yorkshire, UK), yn bennaeth ar yr adran hysbyslun yn RKO Pictures, tra fod ei hen-nain, a anwyd yn Brookling, Hattie Bilson yn ysgrifenwraig sgrîn ac mae ei thaid, Bruce Bilson, yn gyfarwyddwr ffilm. Fe ysgarodd rieni Bilson yn ystod ei phlentyndod, ac yn 1997 fe ail briododd ei thad Heather Medway, actores a mam i hanner-chwiorydd Bilson Hattie a Rosemary.