Rachel Bilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eiri (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Eiri (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 23:
===Gyrfa===
Mynychodd Bilson Grossmont College yn San Diego, ond fe adawodd ar ol blwyddyn, gan gymeryd cyngor ei thad i ddechrau gyrfa mewn actio a dechreuodd ymddangos mewn amryw o hybysebion, yn cynnwys hysbysebion ar gyfer Subway, Raisin Bran a Pepto-Bismol. Yn gynnar yn 2003 fe ymddangosodd Bilson mewn episodau o Buffy the Vampire Slayer a 8 Simple Rules for Dating My Teenage Daughter. Wedyn cafodd Bilson ei chastio yn The O.C, a ddaeth yn Awst 2003. Y bwriad oedd i’w chymeriad, Summer Roberts, ond i ymddangos mewn cwpl o episodau, ond fe ddaeth hi’n gymeriad rheolaidd ar ôl rhediad llwyddiannus, wrth i ramant ar-sgrîn Bilson gyda Seth Cohen (Adam Brody) ddod yn elfen nodweddiadol i’r gyfres.
 
Fel canlyniad i’r llwyddiant a fu yn The O.C., mae Bilson wedi dod yn adnabyddus ymysg cynulleidfa yn eu arddegau. Yn y Teen Choice Awards yn 2005, fe gafodd Bilson tair gwobr: “Choice Hottie Female”, “Choice TV Actress (Drama” a “Best Onscreen TV chemistry” (wedi ei ennill ar y cyd gyda Adam Brody). Yn 2005, fe alwodd y cylchgrawn Maxim hi y chweched en eu “Hot 100 List” blynyddol; yn 2006 fe gafodd hi #14. Fe alwodd fersiwn y DU o’r cylchgrawn FHM hi yn 28ain yn y rhestr “100 Sexiest Women in the World” yn 2006, tra alwaydd fersiwn yr US hi’n rhif 77 yn 2005. Hefyd fe gafodd ei galw’n in o’r “100 Most Beautiful People” yn 2006 gan y cylchgrawn People. Yn Ionawr 2008, fe alwodd cyflwynydd radio Howard Stern hi yn yr “hottest chick in Hollywood”.