Rachel Bilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eiri (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Eiri (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 26:
 
Rôl gyntaf Bilson mewn ffilm oedd yn The Last Kiss, ffilm gomedi rhamantus, hefyd yn y ffilm roedd Zach Braff. Yn y ffilm, a agorodd yn 2006, mae Bilson yn chwarae myfyrwraig yn y coleg sy’n denu cymeriad Braff. Mae wedi ei ddweud fod Bilson wedi cael rhywun arall i wneud y golygfeydd rhyw gan ei bod hi’n teimlo’n anghyfforddus yn noeth o flaen y camera. Mae hi yn ymddangos yn yr olygfa am y ffilm derfynol, er hynny yn gwisgo bra lliw croen. Fe gyfaddefodd ei bod hi’n ofnus, ond dywedodd fod Zach wedi ei helpu drwyddi gan eu bod yn ffrindiau, ac ei bod hi’n teimo’n gyforddus yn ei wneud.
 
Mae Bilson wedi dweud bod yn well ganddi actio mewn ffilmiau nag ar y teledu, ac y bysai hi’n hoff o actio y math o rôlau y mae Natalie Portman a Scarlett Johansson yn gwneud. Mae hi wedi dweud, er ei bod hi’n ddiolchgar am lwyddiant The O.C., ei bod hi’n teimo fod y sioe drosodd ac ei bod hi’n barod i symud ymlaen i rôlau ffilm. Ym Medi 2006, daeth adroddiadau fod Bilson yn mynd i serennu yn y fersiwn ffilm o’r llyfr comic Wonder Woman, ond mae Bilson wedi cadarnhau fod yr adroddiadau yn anwir.
 
Yn hwyr yn 2006, fe gafodd Bilson ei chastio yn rôl Millie yn y ddrama Jumper gan Doug Liman, yn lle yr actores Teresa Palmer; fe gafodd y ffilm ei rhyddhau ac Chwefror 14eg, 2008. Fe ymddangosodd Rachael hefyd mewn dwy episod mewn comedi gan Josh Schwartz, a greodd The O.C. hefyd, o’r enw Chuck.
 
Fe ymddangosodd mewn rhan o’r ffilm New York, I love You, yn serennu ynghyd a Natalie Portman, Hayden Christensen ac Orlando Bloom. Ym Medi 2008 fe ddechreuodd hi ffilmio y ffilm rhamantus Waiting for Forever, a gyfarwyddwyd gan James Keach.
 
 
[[Categori:Genedigaethau 1981]]