Rachel Bilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎LLunyddiaeth: fformat / defaultsort
B spacing
Llinell 18:
 
Mae sôn fod Bilson wedi bod trwy gyfnod “hunan-ddinistriol a gwrthryfelgar” yn ystod ei harddegau. Pan roedd hi’n 14, fe fuodd hi a grŵp o ffrindiau ei brawd mewn damwain car, gwrthdrawiad yn syth mewn i gar arall. Mewn canlyniad roedd Bilson yn anymwybodol am rai diwrnodau, mae ganddi graith uwch ben ei llygaid dde, ac mae hi weithiau’n dioddef o feirgynau ac yn colli’i chof. Dywedodd fod y profiad hyn wedi ei newid hi, ac wedi ei hannog i stopio mynd mewn i drwbl ac wedi ei stopio rhag mynd lawr y ffordd honno. Fe raddiodd Bilson o Walker Reed Middle School ym 1996 ac o Notre Dame High School ym 1999. Yn ystod ei hamser yn Notre Dame, fy ymddangosodd mewn cynhyrchiadau o Bye Bye Birdie, Once Upon a Mattress a ''[[The Crucible]]''.
 
 
===Gyrfa===
Llinell 32 ⟶ 31:
 
Fe ymddangosodd mewn rhan o’r ffilm New York, I love You, yn serennu ynghyd a Natalie Portman, Hayden Christensen ac Orlando Bloom. Ym Medi 2008 fe ddechreuodd hi ffilmio y ffilm rhamantus Waiting for Forever, a gyfarwyddwyd gan James Keach.
 
 
 
===Bywyd Personnol===
Llinell 39 ⟶ 36:
 
Mae Bilson wedi cael ei chydnabod gan sawl person yn y cyfryngau fel “fashion junkie”. Mae hi wedi disgrifio ei steil i fod yn “vintage”, a dywedai taw Kate Moss a Diane Keaton yw ei hysbrydolwyr. Yn hwyr yn 2007 fe aeth hi at DKNY Jeans gyda’r bwriad i gynllunio casgliad o ddillad gyda’r brand fasiwn poblogaidd. Gyda’i gilydd fe gynllunion nhw Edie Rose. Fe gafodd y casgliad ei lawnsio ym Medi 2008. Fe gollodd hi lawer o’i chasgliad o ddillad pan dorrodd rhywun i mewn i’w thy ym Mai 2009. Mae Bilson wedi gwrthod ymddangos yn hanner noeth mewn cylchgronnau dynion, gan ddweud ei bod hi’n teimlo ei bod ei chorff yn gysygredig ac ddim yno i’r byd i gyd i’w weld. Er hynny, mae hi wedi ymddangos mewn lluniau yn y cylchgronnau dynion Stuff a GO.
 
 
 
 
==LLunyddiaeth==