Cosi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
eginyn
 
achosion
Llinell 11:
| MeshID = D011537
}}
[[Llid (chwyddo)|Llid]] ar y [[croen]] sy'n peri [[atgyrch]] i grafu yw '''cosi''' neu '''prwritis'''.<ref name="cyflwyniad">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/i/article/itching?locale=cy#Cyflwyniad |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Cosi: Cyflwyniad |dyddiadcyrchiad=13 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Achosion==
Achosir cosi gan ystod eang o [[clefyd|glefydau]], [[haint|heintiau]], a [[cyflwr meddygol|chyflyrau meddygol]]. Maent yn cynnwys:<ref name="achosion">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/i/article/itching?locale=cy#Achosion |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Cosi: Achosion |dyddiadcyrchiad=13 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
* clefydau megis [[diabetes math 1]] a [[diabetes math 2|math 2]], [[clefyd thyroid]] ([[isthyroidedd]]), [[methiant arennol difrifol]], ac [[anemia oherwydd diffyg haearn]];
* rhai cyflyrau sy'n effeithio ar yr [[afu]] megis [[sirosis bustlog sylfaenol]], [[canser yr afu]], a [[hepatitis]];
* cyflyrau ar y [[croen]], megis [[ecsema]], [[soriasis]], [[lichen planus]], [[acne rhosynnaidd]], [[gwres pigog]] ([[brech]] goslyd iawn a fydd yn ymddangos yn ystod tywydd poeth, llaith), [[llosg haul]], a [[croen sych|chroen sych]];
* heintiau, megis [[brech yr ieir]], [[twymyn goch|y dwymyn goch]], [[haint ffyngaidd]] sy'n gallu achosi cosi ar y corff ([[tarwden]]), yn yr afl, neu rhwng bysedd y traed ([[tarwden y traed]]), a [[candidasis]] sy'n achosi cosi yn rhan allanol yr [[organau rhywiol benywaidd]];
* pryfed megis [[llau corff]], [[llau pen|pen]], ac [[llau arffed|arffed]], [[gwiddonyn]] sy'n achosi [[clefyd y crafu]], a [[brathau a phigiadau pryfed]];
* [[beichiogrwydd]], lle mae cosi yn [[symptom]] cyffredin, ond gall hefyd fod yn symptom cynnar o [[colestasis obstetrig]] (a chynghorir i fenywod beichiog sy'n profi cosi i'w wirio gan [[meddyg|feddyg]] neu [[bydwraig|fydwraig]], yn arbennig yn ystod y trydydd tymor gan y bydd yn arwain at [[marwanedigaeth|farwanedigaeth]]).
 
Gall cosi hefyd gael ei achosi gan adwaith i [[meddyginiaeth|feddyginiaeth]] neu [[adwaith alergaidd]] i lawer o bethau, megis [[cosmetig]]au, [[ffabrig]]au, [[metel]]au penodol (e.e. [[nicel]]), neu gysylltiad â phlanhigion gwenwynig neu blanhigion sy'n pigo. Fel arfer, bydd [[gwald]]iau coch coslyd [[llosg danadl]] ar wyneb y croen yn adwaith alergaidd i fwyd neu feddyginiaeth.<ref name="achosion"/>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Croen]]
[[Categori:Symptomau]]
{{eginyn meddygaeth}}
 
[[ay:Jasi]]