Rachel Bilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 33:
 
===Bywyd Personnol===
Dechreuodd Bilson fynd mas gyda ei chyd-actor o The O.C, [[Adam Brody]], yn 2003. Yn hwyr yn 2006, fe orffennodd perthynas y ddau. Yn Mawrth 2007, fe ddechreuodd Bilson fynd mas â’r actor [[Canada|Canadaidd]] [[Hayden Christensen]], ar ôl cwrdd ar y set o Jumper. Fe ddyweddiodd y ddau yn Rhagfyr 2008, dros y gwyliau.
 
Mae Bilson wedi cael ei chydnabod gan sawl person yn y cyfryngau fel “fashion junkie”. Mae hi wedi disgrifio ei steil i fod yn “vintage”, a dywedai taw [[Kate Moss]] a [[Diane Keaton]] yw ei hysbrydolwyr. Yn hwyr yn 2007 fe aeth hi at DKNY Jeans gyda’r bwriad i gynllunio casgliad o ddillad gyda’r brand fasiwn poblogaidd. Gyda’i gilydd fe gynllunion nhw Edie Rose. Fe gafodd y casgliad ei lawnsio ym Medi 2008. Fe gollodd hi lawer o’i chasgliad o ddillad pan dorrodd rhywun i mewn i’w thy ym Mai 2009. Mae Bilson wedi gwrthod ymddangos yn hanner noeth mewn cylchgronau dynion, gan ddweud ei bod hi’n teimlo ei bod ei chorff yn gysygredig ac ddim yno i’r byd i gyd i’w weld. Er hynny, mae hi wedi ymddangos mewn lluniau yn y cylchgronau dynion Stuff a GO.