Upton Sinclair: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 10:
Ganwyd Sinclair yn [[Baltimore, Maryland|Baltimore]], [[Maryland]] yn fab i  Upton Beall Sinclair yr hynaf a Priscilla Harden ei wraig. Roedd ei dad yn werthwr [[Alcohol|diodydd meddwol]] tra fo ei fam yn Eglwyswraig oedd yn gadarn dros yr achos dirwest. Doedd ei dad ddim yn llwyddiannus yn ei gwaith, yn rhannol oherwydd ei fod yn [[Alcoholiaeth|alcoholig]], gan hynny magwyd Sinclair mewn tlodi.<ref name="ReferenceC">Harris, Leon. (1975) "Upton Sinclair: American Rebel." Thomas Y. Crowell Company, New York.</ref> Doedd o ddim yn dod ymlaen gyda'i rieni ac yn 16 mlwydd oed ymadawodd a chartref y teulu.<ref>{{Citation|last=Derrick|first=Scott|title=Upton Sinclair's The Jungle|year=2002|editor-last=Bloom|editor-first=Harold|chapter=What a Beating Feels Like: Authorship Dissolution, and Masculinity in Sinclair's The Jungle|publisher=Infobase|tudalenau=131–32}}.</ref> Wedi ymadael a'i rieni gwariodd rhywfaint o amser gyda'i fodryb oedd wedi priodi miliwnydd a'i thaid a nain famol oedd hefyd yn bobl gefnog. Gan hynny cafodd profiad yn ei ieuenctid o fyw ymysg tlodi mawr ac o fyw ymysg cyfoeth mawr. Roedd yn honni bod ei brofiad o fywyd ar y ddau eithaf yn achos ei gredoau sosialaidd.
 
Gan fod ei deulu yn symud o gwmpas y wlad brin oedd manteision addysg Sinclair. Dechreuodd mynychu'r ysgol yn 10 mlwydd oed a bu'n rhaid iddo gweithion galed i dal fynnu efo ei gyfoedion. Yn 14 mlwydd oed aeth i City Collage, Efrog Newydd.<ref>{{Citation|last=Derrick|first=Scott|title=Upton Sinclair's The Jungle|year=2002|editor-last=Bloom|editor-first=Harold|chapter=What a Beating Feels Like: Authorship Dissolution, and Masculinity in Sinclair's The Jungle|publisher=Infobase|tudalenau=131–32}}.</ref> Talodd ffioedd yr ysgol trwy sgwennu jôcs, gwneud cartwnau ac ysgrifennu straeon anterth fyrion ar gyfer cylchgronau.<ref name="ReferenceC2" /> Wedi ymadael a City Collage aeth i brifysgol Columbia i ddysgu'r gyfraith. <ref>Yoder, Jon. (1975). "Upton Sinclair." Frederick Ungar Publishing Co., New York.</ref> Wrth astudio'r gyfraith dysgodd defnyddio peiriant stenograffydd, y peiriant a defnyddiwyd mewn llysoedd i greu cofnodion ar y pryd o'r hyn oedd yn cael ei ddweud gan dystion, cyfreithwyr a'r barnwr. Trwy ddefnyddio'r stenograffydd roedd yn gallu cyhoeddi nofelau yn weddol sydyn.
 
Bu'n briod teirgwaith. Ym mis Hydref 1900 priododd Meta Fuller, bu iddynt un mab.<ref name="Harris, Leon 1975">Harris, Leon. (1975). "Upton Sinclair: American Rebel." Thomas Y. Crowell Company, New York.</ref> Ym 1911 gadawodd Meta Upton er mwyn cael perthynas a'r bardd Harry Kemp. Ym 1913 priododd Mary Craig Kimbourgh bu'n briod a hi hyd ei marwolaeth ym 1961. Priododd Mary Willis, ei drydedd wraig ychydig wedi marwolaeth ei ail wraig.