Fandaliaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B di treiglad ar ol 'yn'
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd y '''Fandaliaid''' yn llwyth Almaenig, yn wreiddiol o'r ardaloedd sy'n awr yn nwyrain [[Yr Almaen]]. Roeddynt yn ffurfio dau grŵp llwythol, y [[Silingi]] a'r [[Hasdingi]]. Yn yr [[2il ganrif]] symudodd yr Hasdingi tua'r de ac ymosod ar yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] dan eu brenhinoedd [[Raus]] a [[Rapt]]. Tua 271 roedd yr ymerawdwr [[Aurelian]] yn gwarchod ffîn [[Afon Donaw]] yn eu herbyn. Wedi gwneud cytundeb heddwch, caniataodd iddynt ymsefydlu yn [[Dacia]].
 
Yn ôl [[Jordanes]], daeth yr Hasdingi i wrthdrawiad a'r [[Gothiaid]] ac wedi i'w brenin [[Visimar]] gael ei ladd, symudasant i [[Pannonia]], lle rhoddodd [[Cystennin Fawr]] diroedd iddynt. TtwyTrwy'r ymerawdwr [[Valens]] (364–78) daeth y Fandaliaid yn Gristionogion [[Ariaeth|Ariaidd]].
 
Yn 406 symudodd y Fandaliaid tua'r gorllewin o Pannonia, ond oddeutu [[Afon Rhein]] daethant i wrthrawiad a'r [[Ffranciaid]]. Lladdwyd tua ugain mil o Fandaliaid, yn cynnwys eu brenin Godigisel, mewn brwydr, ond yna cawsant gymorth yr [[Alaniaid]] i orchfygu'r Ffranciaid. Ar [[31 Rhagfyr]], [[406]] yr oedd Afon Rhein wedi rhewi, gan eu galluogi i groesi ac anrheithio [[Gâl]]. Erbyn Hydref [[409]] roeddynt wedi cyrraedd [[Sbaen]], lle cawsant diroedd gan y Rhufeiniaid fel ''[[foederati]]''. ,