Tomograffeg gyfrifiadurol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
risgiau
peth ar y broses
Llinell 2:
 
Defnyddir tomogramau, sef y delweddau a gynhyrchir gan sganiau CT, gan [[meddyg|feddygon]] i wneud [[diagnosis meddygol|diagnosis]] o [[cyflwr meddygol|gyflwr meddygol]] cleifion. Maent er enghraifft yn ddefnyddiol wrth wneud diagnosisau o [[enseffalitis]] a [[strôc]].
 
==Proses==
Gan ddibynnu ar y rhan o'r corff sy'n cael ei harchwilio, gall [[lliwur gwrthgyferbynnu]] gael ei ddefnyddio i wneud i rai [[meinwe]]oedd ymddangos yn fwy clir o dan belydr-x. Defnyddiwr ar gyfer sganiau'r [[ymennydd]] i amlygu [[tiwmor]]au a sganiau'r [[brest|frest]] i alluogi meddygon ddarganfod a oes modd tynnu tiwmor drwy lawdriniaeth neu beidio, ac yn achos sganiau'r [[abdomen]] gall defnyddio [[uwd bariwm]] fel cyfrwng gwrthgyferbynnu sydd yn ymddangos yn wyn ar y sganiau wrth iddo symud drwy'r [[system dreulio|llwybr treulio]].<ref name="sute">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/s/article/sganct?locale=cy#Sut%20mae%27n%20gweithio? |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Sgan CT: Sut mae'n gweithio? |dyddiadcyrchiad=15 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Risgiau==
Gweithdrefn ddi-boen yw sgan CT<ref name="cyflwyniad">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/s/article/sganct?locale=cy#Cyflwyniad |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Sgan CT: Cyflwyniad |dyddiadcyrchiad=13 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref> ac yn gyffredinol fe'i ystyrir yn ddiogel iawn.<ref name="risgiau">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/s/article/sganct?locale=cy#Risgiau |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Sgan CT: Risgiau |dyddiadcyrchiad=13 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref> Mae'n broses gyflym sydd yn dileu'r angen am [[llawdriniaeth fewnwthiol|lawdriniaeth fewnwthiol]]. Ond mae sganiau CT yn golygu amlygiad i [[ymbelydredd]] ar ffurf pelydrau-x, ac er cedwir lefel yr ymbelydredd a ddefnyddir i isafbwynt i atal niwed i gelloedd y corff, mae'r amlygiad i ymbelydredd yn dibynnu ar nifer y delweddau sydd angen eu cymryd. Ni wneir sganiau CT ar fenywod [[beichiogrwydd|beichiog]] gan fod ychydig o risg y gallai'r pelydrau-x achosi [[annormaledd genedigol|annormaledd]] yn yr [[embryo]]/[[ffetws]]. Mae'n bosib i [[ïodin]], sydd yn aml yn sylwedd mewn y [[lliwur gwrthgyferbynnu]] a ddefnyddir mewn sganiau CT, achosi [[alergedd|adwaith alergaidd]] mewn rhai pobl. Oherwydd y risgiau uchod fe ofynnir i gleifion cyn derbyn sgan CT os ydynt yn credu y gallent fod yn feichiog, neu os oes unrhyw alergeddau ganddynt. Yn achlysurol iawn gall y lliwur achosi rhywfaint o niwed i'r [[aren]]nau mewn pobl sydd eisoes â phroblemau'r arennau. Cynghorir i famau sy'n [[bwydo ar y fron]] aros am 24 awr yn dilyn pigiad y gwrthgyferbyniad cyn ailddechrau bwydo ar y fron.<ref name="risgiau"/>
 
==Cyfeiriadau==