Wicipedia:Polisïau a chanllawiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr
Tagiau: Clirio Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dadwneud y golygiad gan 187.254.1.174 (Sgwrs | cyfraniadau) ?
 
Llinell 1:
Mae Wicipedia Cymraeg yn brosiect cydweithredol ond mae ganddi ei pholisïau ei hun. Ystyrir hefyd polisïau Wiki-en yn ganllawiau defnyddiol pan nad yw'r polisïau manwl ar gael yn y Gymraeg.
 
:''Ein hamcan gyda Wicipedia yw creu gwyddoniadur a roddir am ddim i bawb ei ddefnyddio; hwn y'r gwyddoniadur mwyaf a grëwyd erioed, o ran ei hyd a'i led. Carem iddo hefyd fod yn ffynhonnell ddibynadwy o ffeithiau diduedd.''
 
Mae i Wicipedia, felly, nifer o '''bolisïau a chanllawiau''' a ystyrir yn bwysig gennym. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo i gyrraedd yr amcanion yma. Mae rhai ohonynt yn esblygu o ddydd i ddydd wrth i Wicipedia ddatblygu a chynyddu. Mae eraill, fodd bynnag, wedi hen sefydlu ac ni chaent eu hystyried mewn unrhyw ffordd yn ddadleuol gan y rhan fwyaf o hen lawiau Wicipedia.
 
== Polisïau ==
Mae'r rhain wedi'u sefydlu ar '''[[Wicipedia:Pum Colofn|Bum Colofn Wicipedia]]''':
 
1. '''Osgoi rhagfarn (neu ogwydd).'''
Dylai erthyglau gael eu hysgrifennu o [[Wicipedia:safbwynt niwtral|safbwynt niwtral]], sy'n golygu y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn wahanol, a hynny yn deg ac yn sensitif. Gweler [[Wicipedia:Arddull ddiduedd]] am esboniad manylach.
 
2. '''Peidiwch ag amharu ar hawlfraint.''' Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termau [[GNU Free Documentation License]]. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio (ac weithiau'n torri) ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu i unrhyw bwrpas; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol. Gweler [[Wicipedia:Hawlfraint]] a [[Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig]] am ragor o wybodaeth.
 
3. '''Gwyddoniadur yw Wicipedia.''' Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn ac nid i leisio barn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. Gweler [[Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia]] a [[Wicipedia:Angen ffynhonnell]] sy'n ymwneud â dwy garreg glo hanfodol. Ceir polisi gennym hefyd ar [[Wicipedia:Amlygrwydd|Amlygrwydd]], sef y meincnodau a ddefnyddir wrth i ni ystyried a ydy'r person, y grŵp, y cwmni neu'r gwrthrych yn haeddu erthygl. Ceir hefyd [[Wicipedia:Enwi erthyglau|Bolisi ar enwi erthyglau]].
 
4. '''Parchwch ddefnyddwyr eraill.''' Mae'r rheiny sy'n cyfrannu at Wicipedia'n dod o wahanol wledydd a diwylliannau ac mae ganddynt farn wahanol i'w gilydd yn aml. Mae hyn yn wir hefyd am y Wicipedia Cymraeg, gyda llawer o'r cyfrannwyr yn byw ledled y byd. Gallwn gydweithio'n effeithiol mewn modd [[Wicipedia:Cwrteisi|cwrtais]] i ddatblygu Wicipedia pan rydym yn parchu pobl ac amrywiaeth barn. Gweler y canllaw Saesneg: [[Wikipedia:Wikipetiquette|Moesau]]. Mae ein [[Wicipedia:Polisi preifatrwydd/newydd|Polisi preifatrwydd]] yn rhan anhepgor o barchu eraill.
 
5. '''Dilynwch y confensiynau.''' Drwy ddilyn rhai confensiynau neu arferion sydd heb eu hysgrifennu, gallwn greu gwyddoniadur mwy cyson a defnyddiol. Edrychir ar rai o'r canlynol fel polisïa drwy ddefnydd a chonfensiwn:
:* [[Wicipedia:Consensws]]
:* [[Wicipedia:Botiau]]
:* [[Wicipedia:Canllawiau tudalennau sgwrs]]
:* [[Wicipedia:Fandaliaeth]]
:* [[Wicipedia:Arddull]] a [[Wicipedia:Canllawiau iaith]]
:* [[Wicipedia:Enwi erthyglau]] a [[Wicipedia:Ail enwi neu symud tudalen]]
:* [[Wicipedia:Polisi defnyddio delweddau]] a [[Wicipedia:Canllaw dileu delweddau]]
:* [[Wicipedia:Y Caffi/archif/13#Tynnu statws gweinyddwr|Tynnu statws gweinyddwr]]
:* [[Wicipedia:Cyfarwyddiadau ynglŷn â materion cyfoes]]
:* [[Wicipedia:Categorïau]]
 
6. '''Ewch amdani!'''. Byddwch ddewr: os gwnewch gangymeriad - peidiwch â phoeni! Gweler: [[Wicipedia:Ewch amdani!]].
 
==Sut mae'r polisïau hyn yn cael eu gorfodi?==
Golygydd Wicipedia yw...''chi''. Nid oes "Prif Olygydd" neu sensor mawr sy'n goruchwylio'r holl waith o ddydd i ddydd. Yn hytrach, mae'r defnyddwyr eu hunain yn monitro [[arbennig:Recentchanges|newidiadau diweddar]] a chywiro gwallau'n ymwneud â hawlfraint a chynnwys a fformadu fel maent yn codi.
 
Mewn achosion eithriadol mae [[:en:User:Jimbo Wales|Jimmy Wales]] yn medru atal defnyddiwr sydd wedi bod yn hen niwsans. Mae Jimbo wedi creu rhai polisïau swyddogol ar ran Wicipedia: [http://www.wikipedia.org/pipermail/wikien-l/2002-November/000083.html this Wikien-l post] a [[:en:User:Jimbo Wales/Statement of principles]].
 
==Sut y crëwyd y polisïau==
Ymarfer da a chonsensws barn mewn gwirionedd sydd wrth wraidd ein polisïau. Yn yr un modd, crëwyd y canllawiau hyn er mwyn disgrifio'r gymuned a gwaith y gymuned fel y mae hi heddiw a'r ymarfer da maent wedi ei grynhoi a'i gasglu dros y blynyddoedd. Rydym yn parhau i drafod ac ystyried problemau ar yn [[Y Caffi]].
 
==Canllawiau i'w hystyried==
Yn ogystal â'r polisïau cyffredinol rydym wedi'u rhestru uchod, mae'r canlynol yn ganllawiau a ddefnyddiwn, ond sydd wedi'u creu ar Wici-en::
 
===Canllawiau iaith===
* [[Wicipedia:Canllawiau iaith]]
 
==Erthyglau a sgyrsiau eraill ynghylch Wicipedia==
* Mae gwefan [http://meta.wikipedia.com/ Meta-Wikipedia] yn cynnwys llawer o erthyglau ynglŷn â Wicipedia a phynciau perthynol mewn dull mwy golygyddol.
* Creu erthyglau [[Wikipedia:How-to|sut-i]] ar Wicipedia.
 
[[Categori:Cymorth|Polisïau a chanllawiau]]
[[Categori:Polisi Wicipedia]]