Ysgyfaint: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dadwneud y golygiad 6237341 gan 46.254.201.115 (Sgwrs | cyfraniadau) ?
Tagiau: Dadwneud
Llinell 1:
[[Delwedd:Diagram showing the lungs including the alveoli CRUK 309 cy.svg|de|320px]]
Prif organau [[system resbiradu]]'r corff yw'r '''ysgyfaint''' (neu ar lafar: '''sgyfaint'''), sy'n galluogi [[bod dynol|pobl]] ac anifeiliaid eraill i [[anadl]]u. O fewn [[mamal]]iaid a [[fertebrat]]au eraill, lleolir dwy ran yr ysgyfaint ger yr [[asgwrn cefn]] - o boptu'r [[calon|galon]]. Eu pwrpas yw tynnu (neu 'echdynnu') [[ocsigen]] o'r [[Atmosffer y Ddaear|atmosffer]] a'i basio ymlaen i lif y gwaed yn y corff. AR yr un pryd caiff y [[carbon deuocsid]] ei ryddhau yn ôl i'r atmosffer; gellir disgrifio hyn fel proses o gyfnewid [[nwy]]on. Caiff y symudiadau sy'n galluogi i'r anadlu hyn ddigwydd ei reoli gan g🤗🤗🤗🤗yhyraugyhyrau. Mewn llawer o anifeiliaid y prif gyhyr yw diaffram y thoracs. yr ysgyfaint hefyd sy'n galluogi anifeiliaid i wneud synnau gwahanol e.e. siarad, udo, mewian a brefu.
 
Mae gan fodau dynol ddwy ysgyfaint: y chwith a'r dde. yn Gymraeg defnyddir y gair '''ysgyfant''' weithiau am un rhan. Maent wedi eu lleoli yg ngwactod y thoracs yn y fron. Mae'r ysgyfaint dde yn fwy na'r chwith, gan fod yr ysgyfaint chwith yn rhannu lle gyda'r galon. Gyda'i gilydd mae'r ddwy ysgyfaint yn pwyso 1.3 [[cilogram|kg]]. Mae nhw'n ffurfio rhan isaf y pibellau anadlu sy'n cychwyn yn y trachea ac yn canghenu i'r bronchi a'r bronciolau ac sy'n derbyn aer i fewn. Mae'r 'canghenau' hyn yn parhau i rannu a lleihau nes bod yr aer yn cyrraedd alfeoli meicrosgopig, ble mae'r broses o gyfnewid nwyon yn digwydd. Gyda'i gilydd mae'r ysgyfaint yn cynnwys 2,400 [[cilometr]] (1,500 mi) o bibelli a 300 - 500 o alfeoli.