Gwydion fab Dôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ru:Гвидион
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cymeriad yn y bedwaredd o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'' yw '''Gwydion fab Dôn'''. Gellir ystyried mai Gwydion, yn hytrach na Math, yw'r prif gymeriad yn y stori. Mae ei fam, [[Dôn]], yn [[Dduwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] sy'n chwaer i Math fab Mathonwy ac a uniaethir â'r dduwies Geltaidd [[Danu]]/[[Anu]] yn y traddodiad Gwyddelig.
 
Yn ôl y chwedl, ni allai [[Math]] fab [[Mathonwy]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ac ewythr i Gwydion, fyw ond tra byddai â'i ddeudroeddraed yng nghôl morwyn, ac eithrio yn amser rhyfel. [[Goewin]] ferch Pebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Mae brawd Gwydion, [[Gilfaethwy fab Dôn]], yn syrthio mewn cariad a hi. Dyfala Gwydion fod rhywbeth o'i le ar ei frawd, ac wedi ei holi, mae'n darganfod ei gyfrinach ac yn addo ei helpu.
 
Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] at [[Pryderi]], prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi, yn ei lys yn [[Rhuddlan Teifi]]. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo y'r moch a gafodd gan [[Arawn]] brenin [[Annwfn]] yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond wediar ôl i WydionGwydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Cynullir llu Gwynedd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. LleddirLledir Pryderi gan Wydion. Dychwelodd Math i [[Caer Dathyl|Gaer Dathyl]] ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.
 
Fel cosb ar y ddau frawd cymerodd Math ei [[hudlath]] a tharo Gilfaethwy "hyd onid oedd yn [[ewig]] mawr" a tharo Gwydion "hyd onid oedd yn [[carw| garw]]". Datganodd Math: "Gan eich bod wedi eich cydrwymocyd-rwymo fe wnaf ichwi gydgerdded, a'ch bod yn gymaredig ac o'r un natur â'r anifeiliaid gwyllt yr ydych yn eu ffurf, ac yn yr amser y byddo epil iddynt hwy fe fydd i chwithau. A blwyddyn i heddiw dewch yma ataf i." Ymhen y flwyddyn dychwelodd y carw Gwydion a'r ewig Gilfaethwy gydag [[elain]] gref yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath a throi Gilfaethwy'n [[baedd| faedd]] a Gwydion yn [[hwch goed]] a'u hanfon ymaith am flwyddyn arall. Cymerodd Math y mab a'i fedyddio gyda'r enw [[Hyddwn]]. Ar ôl blwyddyn arall dychwelodd y baedd Gilfaethwy a'r hwch goed Gwydion gydag "anifail o gryn faint...yn fawr o'i oed" yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath unwaith eto a throi Gilfaethwy'n fleiddiastfleiddast a Gwydion yn [[blaidd|flaidd]]. Bedyddiwyd y mab gyda'r enw [[Hychddwn]]. Dychwelodd y brodyr ymhen blwyddyn gyda chenau blaidd yn fab iddynt. Cafodd ei fedyddio gyda'r enw [[Bleiddwn]]. Dychwelodd Math y ddau frawd i'w cnawd eu hunain a dweud: "Wŷr, os gwnaethoch gam â mi, digon y buoch o dan fy nghosb".
 
Roedd yn rhaid i Math gael morwyn newydd gan nad oedd Goewin yn forwyn bellach. Cynghorodd Gwydion iddo ddewis [[Arianrhod]], chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei [[hudlath]] ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, aca bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn ddiweddarach clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Rhoddwyd ef allan i'w fagu am gyfnod, yna magwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.
 
Aeth Gwydion gyda'r bachgen a chyrchu [[Caer Arianrhod]] i gyflwyno'r mab i'w fam. Ond digiodd Arianrhod a dweud "O ŵr, beth sydd arnat ti, fy nghywilyddio i, ac erlid fy nghywilydd a'i gadw cyhyd â hyn?" Tyngodd Arianrhod [[dynged]] ar ei mab "na chaiff enw hyd oni chaiff hynny gennyf i."
Llinell 16:
Trannoeth daeth Arianrhod ar fwrdd y llong i gael mesur ei throed ac nid adnabu Gwydion na’i mab. Tra mesurai Gwydion ei thraed disgynnodd [[dryw]] bach ar hwylbren y llong. Taflodd y bachgen ato a tharo'r dryw yn ei goes. Chwarddodd Arianrhod ac meddai, "Duw a ŵyr, â llaw gelfydd y trawodd yr un golau ef" a chyda hynny enillodd y mab ei enw: [[Lleu Llaw Gyffes]].
 
Digiodd Arianrhod a thyngu [[tynged]] arall arno, sef "..na chaiff arfau fyth hyd oni wisgaf i hwy amdano." Ond unwaith eto trwy gyfrwystra llwyddodd Gwydion i dwyllo Arianrhod a chael ei chwaer i wisgo arfau am LeuLleu. Yna tyngodd Arianrhod dynged arall arno, sef "na chaiff fyth wraig o'r genedl sydd ar y ddaear hon yr awr hon."
 
Wedi clywed hyn aeth Gwydion at Fath, mab Mathonwy, am help a chymerodd Gwydion a Math flodau’r [[derw]], [[banadl]] ac [[erwain]] a thrwy hud lluniwyd y ferch dlysaf yn y byd o’r blodau. Galwyd hi [[Blodeuwedd]], ac yn fuan priodwyd hi a Lleu.
 
[[Delwedd:Math Lleu(Guest).JPG|200px|bawd|Lleu yn esgyn i'r awyr yn rhith eryr a Blodeuwedd yn gwylio (darlun o argraffiad 1877 o ''Mabinogion'' [[Charlotte Guest]])]]
Ymhen amser syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â [[Gronw Pebr]], Arglwydd [[Penllyn]] a chynlluniodd y ddau sut i gael gwared oâ Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano. Dywedodd Lleu wrthi na ellid ei ladd os nad oedd yn gyntaf wedi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon, ac wedyn yn sefyll ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a'i tarodaro â gwaywffon. Roedd rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig.
 
Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn yr oedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan [[Afon Cynfal]] (ger [[Ffestiniog]] heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.
 
Taflodd Gronw y'r waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu. Gyda chymorth [[hwch]] daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd [[englynion]] wrtho, sef [[Englyn Gwydion]], nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf ei hun, ond yn wael iawn ei wedd.
 
"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am FlodeuweddBlodeuwedd. Daliwyd hi wrth [[Llyn y Morynion]] a dywedodd Gwydion wrthi,
"Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan [[Afon Cynfal]] a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.
 
Llinell 34:
* Ifans, Dafydd & Rhiannon, ''Y Mabinogion'' (Gomer 1980) ISBN 1 85902 260 X (Sylwer fod y dyfyniadau uchod yn dod o'r diweddariad hwn yn hytrach na thestun gwreiddiol y ''Pedair Cainc''.)
*Ifor Williams (gol.), ''Pedeir Keinc y Mabinogi'' (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)
 
 
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]