Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:38, 30 Awst 2006
Llenor, ganwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (1880-1967). Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
Bywyd
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol a chafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Coleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 7 mlynedd yn ddisgybl-athro, a gwasanethodd fel gweinidog Wesleaidd am weddill ei oes. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleiadd, ac Yr Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.
Gwaith Llenyddol
Ysgrifenodd ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofel hir, sawl cyfrol o straeon byr, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.
Llyfrau i blant yn bennaf
- Hunangofiant Tomi (Bangor, 1912)
- Tir Y Dyneddon (Caerdydd a Wrecsam, 1921)
- Nedw (Wrecsam, 1922)
- Rhys Llwyd Y Lleuad (Wrecsam, 1925)
- Hen Ffrindiau (Wrecsam, 1927)
- Y Doctor Bach (Wrecsam, 1930)
- Stori Sam (1938)
Llyfrau eraill
- Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam, 1923). Nofel.
- Y Llwybr Arian (Wrecsam, 1934). Straeon.
- Rhyfedd o Fyd (1950). Ysgrifau.
- Y Foel Faen (1951). Ysgrifau.
- Gyda'r Blynyddoedd (1951). Hunangofiant.
- Ar Ddisberod (1954). Ysgrifau.
- Yr Hen Gwpan Cymun (1961). Pregethau.
Llyfryddiaeth
- Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
- Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
- Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
- Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
- Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372