Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Æthelfrith o Northumbria"

Ychwanegwyd 43 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Brenin [[Brynaich]] a [[DeiraDeifr]] oedd '''Æthelfrith''' (bu farw tua 616). Teyrnasodd ym Mrynaich (''Bernicia'') o tua 593 hyd tua 616; ef hefyd, o tua 604 ymlaen, oedd y brenin cyntaf o Frynaich i reoli teyrnas Deifr (''Deira''), i'r de o Frynaich. Gan mai DeiraDeifr a Brynaich oedd y ddwy uned sylfaenol yn yr hyn a ddaeth yn [[Northumbria]] yn ddiweddarach, ystyrir Æthelfrith yn frenin cyntaf - ''[[de facto]]'' - teyrnas Northumbria gan haneswyr. Enillodd sawl brwydr yn erbyn [[Brythoniaid]] yr [[Hen Ogledd]], a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]], a chafodd fuddugoliaeth bwysig dros [[Gael]] [[Dál Riata]]. Er iddo gael ei orchyfygu a'i ladd mewn brwydr ac i'w orsedd gael ei chipio gan un o'i elynion, adferwyd ei linach yn y 630au.
 
Roedd Æthelfrith yn fab i [[Æthelric]] ac felly'n ŵyr i [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], ac ymddangos iddo olynu [[Hussa]] fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym [[Brwydr Catraeth|Mrwydr Catraeth]] (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr [[Gododdin]] a goffeir yn y gerdd arwrol ''[[Y Gododdin]]]'', gan [[Aneirin]].
[[Categori:Marwolaethau 616]]
[[Categori:Brenhinoedd Brynaich]]
[[Categori:Brenhinoedd Deifr]]
 
{{eginyn hanes}}