Æthelfrith o Northumbria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Brenin [[Brynaich]] a [[Deifr]] oedd '''Æthelfrith''' (bu farw tua 616). Teyrnasodd ym Mrynaich (''Bernicia'') o tua 593 hyd tua 616; ef hefyd, o tua 604 ymlaen, oedd y brenin cyntaf o Frynaich i reoli teyrnas Deifr (''Deira''), i'r de o Frynaich. Gan mai Deifr a Brynaich oedd y ddwy uned sylfaenol yn yr hyn a ddaeth yn [[Northumbria]] yn ddiweddarach, ystyrir Æthelfrith yn frenin cyntaf - ''[[de facto]]'' - teyrnas Northumbria gan haneswyr. Enillodd sawl brwydr yn erbyn [[Brythoniaid]] yr [[Hen Ogledd]], a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]], a chafodd fuddugoliaeth bwysig dros [[Gael]] [[Dál Riata]]. Er iddo gael ei orchyfygu a'i ladd mewn brwydr ac i'w orsedd gael ei chipio gan un o'i elynion, adferwyd ei linach yn y 630au.
 
Roedd Æthelfrith yn fab i [[Æthelric]] ac felly'n ŵyr i [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], ac ymddangos iddo olynu [[Hussa]] fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym [[Brwydr Catraeth|Mrwydr Catraeth]] (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr [[Gododdin]], ay coffeir eu goffeirtranc yn y gerdd arwrol ''[[Y Gododdin]]]'', gan [[Aneirin]].
 
Rhwng 613 a 616, ymosododd Æthelfrith deyrnas Powys ac enillodd [[Brwydr Caer|Frwydr Caer]]; lladdwyd [[Selyf ap Cynan]], brenin Powys yno. Ymsododd ar fynachod [[clas]] Brythonig [[Bangor Is Coed]] hefyd, a oedd wedi ymgynull i weddïo dros fuddugoliaeth i'r [[Cymry]], yn ôl yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd [[Beda]], ac eraill. Dywedir fod 1200 wedi eu lladd gan filwyr Æthelfrith ac mae dim ond 50 a ddihangodd. Ystyrir y frwydr hon fel un dyngedfennol yn [[hanes Cymru]], [[hanes Lloegr|Lloegr]] a [[Prydain Fawr|Phrydain]], a wahanodd Brythoniaid Cymru oddi ar eu cymdogion yn yr Hen Ogledd.