Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Æthelfrith o Northumbria"

Ychwanegwyd 3 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Roedd Æthelfrith yn fab i [[Æthelric]] ac felly'n ŵyr i [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], ac ymddangos iddo olynu [[Hussa]] fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym [[Brwydr Catraeth|Mrwydr Catraeth]] (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr [[Gododdin]], y coffeir eu tranc yn y gerdd arwrol ''[[Y Gododdin]]'', gan [[Aneirin]].
 
Rhwng 613 a 616, ymosododd Æthelfrith ar deyrnas Powys ac enillodd [[Brwydr Caer|Frwydr Caer]]; lladdwyd [[Selyf ap Cynan]], brenin Powys yno. Ymsododd ar fynachod [[clas]] Brythonig [[Bangor Is Coed]] hefyd, a oedd wedi ymgynull i weddïo dros fuddugoliaeth i'r [[Cymry]], yn ôl yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd [[Beda]], ac eraill. Dywedir fod 1200 wedi eu lladd gan filwyr Æthelfrith ac mae dim ond 50 a ddihangodd. Ystyrir y frwydr hon fel un dyngedfennol yn [[hanes Cymru]], [[hanes Lloegr|Lloegr]] a [[Prydain Fawr|Phrydain]], a wahanodd Brythoniaid Cymru oddi ar eu cymdogion yn yr Hen Ogledd.