Argraffiadaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: annibynol → annibynnol using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Pierre-Auguste Renoir 089.jpg|bawd|de|[[Pierre-Auguste Renoir]], ''La Parisienne'', 1874. [[Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]]]]
Mudiad yng [[celf|nghelf]] yn y 19eg ganrif a darddodd yn [[Ffrainc]] oedd '''Argraffiadaeth''' (Ffrangeg: ''Impressionnisme''). Grŵp anffurfiol oedd yr Argraffiadwyr gwreiddiol a ddaeth at eu gilydd i arddangos eu peintiadau yn annibynolannibynnol o'r ''Salon'' ym [[Paris|Mharis]], o 1874 ymlaen. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy digymell a ffres nad oedd confesiynau academaidd y cyfnod yn caniatáu, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd; hefyd roedd gan rhai o'r artistiaid eu hoff themâu y dychwelant atynt drosodd a throsodd.
 
Ym mhlith yr Argraffiadwyr pennaf oedd [[Claude Monet]], [[Pierre-Auguste Renoir]], [[Alfred Sisley]], [[Édouard Manet]], [[Edgar Degas]] a [[Camille Pissarro]]. Daw enw'r symudiad o beintiad gan Monet, ''Impression, soleil levant'' ('Argraff, Codiad Haul', 1872), un o'r gweithiau yn yr arddangosfa annibynnol cyntaf ym 1874; bwriad y gŵr a fathodd y term, Louis Leroy, oedd i'w dychanu. Yn sgil y symudiad yng nghelf roedd symudiadau Argraffiadol yng ngherddoriaeth a llenyddiaeth.