Arthur Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: cymeryd → cymryd using AWB
Llinell 9:
Ganed Griffith yn [[Dulyn|Nulyn]], o dras Cymreig. Bu'n gweithio fel argraffydd am gyfnod cyn ymuno a'r [[Cynghrair Gaeleg]] oedd yn anelu at adfer yr iaith Wyddeleg. Daeth yn aelod o'r ''[[Irish Republican Brotherhood]]'' (IRB). Bu yn Ne Affica am gyfnod, ac wedi dychwelyd i Ddulyn roedd yn o'r rhai a sefydlodd y papur wythnosol ''[[United Irishman]]'', Yn 1910, priododd ei wraig, Maud; cawsant fab a merch.
 
Erbyn hyn roedd Griffith yn feirniadol iawn o'r [[Y Blaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] a'i thacteg o gydweithio a'r Blaid Ryddfrydol Brydeinig. Yn 1900, sefydlodd [[Cumann na nGaedhael]] ac yn 1903 gyngor cenedlaethol i wrthwynebu ymweliad y brenin Edward VII o Loegr ag Iwerddon. Yn 1905, ymunodd hwn a chyrff eraill i ffurfio Cynghrair [[Sinn Féin]] ("Ni'n hunain"). Roedd yn ceisio cyfuno agweddau ar bolisiau [[Charles Stewart Parnell]] gyda'r traddodiad mwy milwriaethus. Polisi Sinn Féin oedd y byddai unrhyw aelodau a etholid i'r senedd yn Llundain yn gwrthod cymerydcymryd eu seddau.
 
Yn dilyn [[Gwrthryfel y Pasg]] bu cynnydd mawr yn y gefnogaeth i Sinn Féin. Etholwyd Griffith yn aelod seneddol dros Ddwyrain [[Cavan]] mewn is-etholiad yng nghanol 1918, ac yn yr [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|etholiad cyffredinol]] ddiwedd y flwyddyn enillodd Sinn Féin fwyafrif mawr o seddau Iwerddon. Gwrthodasant fynd i'r senedd, gan sefydlu senedd Wyddelig [[Dáil Éireann (1919-1922)|Dáil Éireann]]. Dilynwyd hyn gan [[Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon|Ryfel Annibyniaeth Iwerddon]] yn erbyn y fyddin Brydeinig. Carcharwyd Griffith am gyfnod yn 1921.