Barzaz Breiz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Ambell gysylltiad â'r Gymraeg
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: annibynol → annibynnol using AWB
Llinell 2:
Casgliad o ganeuon a chwedlau gwerin [[Llydaweg]] ar gân a cherddoriaeth Lydewig yw'r '''''Barzaz Breiz''''' ("Barddas Llydaw"); fe'u casglwyd gan [[Théodore Hersart de la Villemarqué]] a'u cyhoeddi ganddo ym [[1839]]. Yn uchelwr o [[Ffrancod|Ffrancwr]] ond o dras Lydewig, tyfodd Villemarqué i fyny yn ardal Plessix yn Nizon, ger [[Pont-Aven]]. Ymddiddorai'n fawr yn nhraddodiadau [[Llydaw]] ac aeth ati i gasglu [[llên gwerin|chwedlau Llydaweg]] a chaneuon oddi ar lafar gwlad. Cafodd ei gasgliad ei feirniadu gan rhai cenedlaetholwyr Llydewig cyfoes a honnent fod yr awdur wedi eu newid a'u haddasu i ddarllenwyr [[Ffrangeg]], ond mae ei llyfrau nodiadau yn profi dilysrwydd y deunydd.
 
Yn fwy diweddar (M. Laurent a ddyfynnir gan A.O.H. Jarman<ref name=":0">{{Cite journal|url=|title=Cerdd Ysgolan|last=Jarman|first=A.O.H.|date=1977|journal=Ysgrifau Beirniadol|volume=10|pages=51-78}}</ref>), mae darganfyddiadau annibynolannibynnol o fersiynnau eraill o rai o'r caneuon ar lafar hefyd yn dystiolaeth i'w gwreiddiau canol oesol.
 
Cyfrol Villemarqué oedd yr ymgais cyntaf i gasglu a chyhoeddi cerddoriaeth Lydewig draddodiadol, ar wahân i [[emyn]]au. Cyn hynny, roedd y llenyddiaeth lafar hon ar gael mewn addasiadau [[Ffrangeg Canol]] yn unig, yn dyddio o'r 13g ymlaen, ond fel yn achos y chwedlau am [[Arthur]], cafodd y chwedlau eu newid yn sylweddol yn nwylo llenorion anghyfiaith gan adlewyrchu eu diwylliant hwy yn hytrach na diwylliant Llydaw.
 
Cafodd y ''Barzaz Breiz'' gylchrediad eang a bu'n gyfrol ddylanwadol iawn ymhlith Celtigwyr [[Rhamantiaeth|Rhamantaidd]]. Roedd yr hynafiaethydd [[Carnhuanawc]], cyfaill Villemarqué yng Nghymru, yn edmygu'r gwaith yn fawr. Beth bynnag am ei ffaeleddau - beiau safonau ymchwil yr oes yn bennaf - daeth y ''Barzaz Breiz'' â diwylliant gwerin Llydaw i sylw gweddill Ewrop am y tro cyntaf. Un o'r caneuon mwyaf hynafol yn y casgliad yw honno sy'n adrodd chwedl [[Kêr-Ys]] ("[[Cantre'r Gwaelod]]" y Llydäwyr). Hefyd o ddiddordeb i ddarllenydd Cymraeg yw'r cyswllt rhwng hanes Llydewig Skolan ([https://www.youtube.com/watch?v=pdKcXdbSvsU ceir fersiwn wedi'i recordio] gan Anne Auffret<ref>{{Cite web|url=https://br.wikipedia.org/wiki/Anne_Auffret|title=Anne_Auffret|date=|access-date=29/8/2018|website=Wikipedia Llydaweg|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>) a sawl llawysgrif Cymraeg o'r Canol Oesoedd (yn enwedig [[Llyfr Du Caerfyrddin]], ond hefyd cywydd ''Chwarae Cnau i'm Llaw'' gan [[Dafydd ap Gwilym]]<ref name=":0" />).
 
==Cyfeiriadau==