Canu rhydd Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 8:
 
==Canu Rhydd Newydd==
Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, ac yn neilltuol yn yr 16eg ganrif, gwelir beirdd proffesiynol yn digon bodlon i ganu ar y mesurau rhydd, er enghraifft [[Siôn Tudur]], [[Wiliam PhilypPhylip]] a [[Llywelyn Siôn]]. Canu rhai uchelwyr ar y mesurau rhydd Cymraeg hefyd, fel [[Rowland Vaughan]] o [[Caer Gai|Gaer Gai]]. Ceir beirdd o safon is yn canu ar y mesurau hyn yn bennaf neu'n gyfangwbl, er enghraifft [[Robin Clidro]].
 
O ganol yr 16eg ganrif ymlaen gwelir math newydd o ganu rhydd yn datblygu, dan ddylanwad canu rhydd Lloegr. Dechreuwyd defnyddio ceinciau Seisnig poblogaidd ar gyfer cerddi Cymraeg, arfer a barhaodd hyd y 18fed ganrif gan feirdd fel [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]] ac a welir hefyd yng ngwaith nifer o feirdd y ganrif olynol, fel [[Talhaiarn]] a [[Mynyddog]]. Ond nid canu rhydd diarddurn mohono. Mae rhai o'r hen gerddi rhydd yn ddigon cywrain, yn gymysgedd o elfennau cynghaneddol ac odlau a rhyddid y canu rhydd pur. Ceir enghraifft ragorol o waith [[Edmwnd Prys]], archddiacon Meirionnydd: