Johann Heinrich Füssli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'thumb|''The artist in conversation with [[Johann Jakob Bodmer,'' 1778-1781.]] Arlunydd ac awdur ar gelf o'r [[Swist...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:16, 20 Medi 2009
Arlunydd ac awdur ar gelf o'r Swistir oedd Johann Heinrich Füssli (7 Chwefror, 1741 – 17 Ebrill, 1825), a ymsefydlodd yn Lloegr lle daeth yn adnabyddus wrth yr enw Henry Fuseli, enw a fabwysiadodd tra'n gweithio yn yr Eidal yn y 1770au. Roedd yn frodor o Zürich.
Ganed Füssli yn Zurich yn 1741 yn fab i'r peintiwr portreadau Johann Caspar Füssli (1706-1782). Ganed ei frawd Johann Kaspar (1743-1786) ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn entomolegydd adnabyddus.
Nodweddir peintiadau a darluniau gan arddull dyrchafol, delfrydol, a ysbrydolwyd gan waith Michelangelo ac eraill. Prif destun ei waith yw digwyddiadau mawr mewn hanes a themau mytholegol o'r Henfyd.
Yn Lloegr daeth Füssli yn ffigwr dylanwadol iawn ym myd celf. Yn 1799 cafodd ei apwyntio yn athro arlunio yn yr Academi Frenhinol, Llundain, ac yn geidwad yn 1804. Ymhlith ei ddusgyblion yn yr Academi roedd John Constable (1776-1837), Benjamin Robert Haydon (1786-1846), William Etty (1787-1849), Edwin Landseer (1802-73), a'r Cymro Penry Williams (1880-1885).