Tryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Mynydd yn y [[Glyderau]] yn [[Eryri]] yw '''Tryfan''', a chanddo uchder o 915m. Mae'n hynod greigiog ac mae ganddo siâp nodweddiadol iawn. Saif wrth ymyl ffordd yr A5 ger [[Llyn Ogwen]], gyda'r [[Carneddau]] yr ochr arall i'r llyn.
 
Mae Tryfan yn un o'r mynyddoedd mwyaf poblogaidd o holl fynyddoedd Eryri, ac ar benwythnosau braf yn yr haf mae cannoedd yn ei ddringo. Dywedir mai Tryfan yw'r unig fynydd yn Eryri (ac unrhywle yng Nghymru a Lloegr) nad oes modd ei ddringo heb ddefnyddio dwylo yn ogystal a thraed.
 
Ar y copa mae dwy garreg fawr a fedyddiwyd yn "Adda ac Efa", ac mae'n gamp draddodiadol neidio o un i'r llall. Mae'n gallu bod yn gamp beryglus, yn arbennig pan fo'r gwynt yn chwythu'n gryf.<ref>[http://www.ogwen-rescue.org.uk/annual_reports/2001/2001_annual_report.pdf Adroddiad Blynyddol Tîm Achub Mynydd Ogwen 2001] Ffeil PDF</ref>