Glyder Fach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Mynydd yn [[Eryri]] yw'r '''Glyder Fach'''; yr ail uchaf yn y [[Glyderau]], rhyw 5m yn is na'r [[Glyder Fawr]]. Saif i'r dwyrain o'r Glyder Fawr ac i'r de o gopa [[Tryfan]]. Islaw'r copa tua'r gogledd mae [[Llyn Bochlwyd]].
 
Gellir ei ddringo o [[Cwm Idwal|Gwm Idwal]], un ai trwy ddilyn y llwybr heibio'r Twll Du i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i gopa'r Glyder Fach dros Fwlch y Ddwy Glyder, neu anelu am Fwlch Tryfan a throi i'r de am y Glyder Fach. Mae'r llwybr syth o Fwlch Tryfan i'r copa yn dilyn crib a enwyd yn ''y Grib Bigog''<ref>Enw Cymraeg a ddefnyddir gan Ioan Bowen Rees, ''Dringo Mynyddoedd Cymru'', (Llyfrau'r Dryw, 1965), er bod yr enw Saesneg yn enwocach.</ref> neu ''Bristly Ridge'', ac yn llwybr llawer anoddach, ond ceir ymuno â'r llwybr haws sy'n arwain at y copa o'r dwyrain oddi ar y Foel Goch. Gellir hefyd ei ddringo o'r de, o [[Pen-y-Pass]]. Mae rhai o glogwyni'r Glyder Fach yn gyrchfan boblogaidd iawn i ddringwyr.
 
Mae'r copa ei hun, a'r holl ardal o'i gwmpas, yn greigiog dros ben, â ffurfiadau nodedig y creigiau gan gynnwys ''Castell y Gwynt'' a Charreg y Cantilifer.
Llinell 17:
Yn ôl Syr [[Ifor Williams]], "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".
 
<references/>
 
{{14 copa}}