Mur Berlin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwingwyn (sgwrs | cyfraniadau)
esboniad bullshit y comiwnyddwyr am bwrpas y mur
Gwingwyn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Berlinermauer.jpg|250px|bawd|'''Mur Berlin''' ar ddechrau'r [[1980au]]]]
'''Mur Berlin''' oedd yr enw answyddogol a roddwyd ar y [[mur]] anferth a godwyd ym [[1961]] ym [[Berlin|Merlin]] rhwng [[Gorllewin Berlin]] a [[Dwyrain Berlin]] i atal [[ffoaduriaid]] rhag croesi i'r Gorllewin, er honnodd llywodraeth y Dwyrain y cafodd y mur ei adeiladu i amddiffyn Dwyrain Berlin rhag "ffasgwyr" y Gorllewin. Am ddegawdau roedd Mur Berlin yn symbol o'r rhwyg rhwng [[Dwyrain Ewrop|Dwyrain]] a [[Gorllewin Ewrop]] a rhwng [[y Gorllewin]] a'r Byd [[Comiwnyddiaeth|Comiwnyddol]] yn gyffredinol.
 
Yn ystod cyfnod bodolaeth y mur, roedd tua 5000 dihangfa llwyddiannus. Mae rhyw ddadl am nifer o bobl a gollodd eu bywydau wrth iddynt geisio dianc. Yn ôl Alexandra Hildebrandt, cyfarwyddwr Amgueddfa Checkpoint Charlie, mwy na 200 pobl a farwodd; ond mae amcangyfrifion eraill yn is.
 
Ym mis Tachwedd [[1989]] tynnwyd rhan sylweddol o'r mur i lawr gan [[Almaen]]wyr cyffredin; un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf yr [[20fed ganrif]] sy'n symboleiddio diwedd [[y Rhyfel Oer]] a'r newid mawr a fu yng ngwledydd [[Cytundeb Warsaw]] ac [[Ewrop]] gyfan yn sgîl hynny.