Cymdeithas y Cymod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Sefydlu: dolenni, tacluso
Llinell 3:
==Sefydlu==
 
Sefydlwyd Cymdeithas y Cymod yn 1914 gan [[gwrthwynebwyr cydwybodol|wrthwynebwyr cydwybodol]] y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], ar sail eu cred [[Cristnogol|Gristnogol]]. Erbyn heddiw, mae wedi datblygu i fod yn fudiad aml-ffydd o heddychwyr gyda chenhadaeth ysbrydol i atal gwrthdaro a chreu cyfiawnder ar sail eu cred yng ngrym cariad Duw. Mae'r aelodau yn ceisio byw bywyd di-drais, gan ymdrechu i greu trawsnewid personol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.
 
"Beth bynnag a ddigwyddo, ni newidir ein perthynas ni. Rydym yn un yng Nghrist, ac ni all fod rhyfel rhyngom ni."
Llinell 9:
Dyma eiriau Almaenwr wrth Sais ar ddechrau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Mawr]], a dyma un o'r hadau y tyfodd Cymdeithas y Cymod ohoni. Ym mis Gorffenaf 1914 cynhaliwyd cynhadledd eciwmenaidd, ryngwladol yn yr Almaen gan Gristnogion a oedd yn ceisio rhwystro'r rhyfel a oedd yn crynhoi. Yn anffodus dechreuodd y Rhyfel cyn i'r gynhadledd orffen a rhaid oedd i'r cynhadleddwyr fynd adref. Er hyn, cyn gwahanu yng ngorsaf [[Cwlen]], dywedodd Friedrich Sigmund-Schulze, gweinidog [[Luther|Lwtheraidd]] o'r Almaen, y geiriau uchod wrth ei gyfaill Henry Hodgkin, [[Crynwr]] o Loegr.
 
Daeth Cristnogion at euei gilydd yng [[Caergrawnt|Nghaergrawnt]] dros ddyddiau olaf y flwyddyn, a sefydlwyd Cymdeithas y Cymod. Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth Cristnogol yn bodoli'n barod yng Nghymru, yn enwedig ymysg rhai o'r enwadau anghydffurfiol,[[Anghydffurfiaeth ayng daeth Cymdeithas y Cymod â pharhâd i'r dystiolaeth heddwch a welwyd eisioesNghymru|anghydffurfiol]].
 
Bu cyfraniad Cymru i'r Gymdeithas yn un gwerthfawr iawn o'r dechrau. Yn wir, Richard Roberts o Flaenau Ffestiniog oedd ei hysgrifennydd cyffredinol llawn-amser cyntaf, a bu [[George M. Ll. Davies]], un o heddychwyr enwocaf Cymru, yn arweinydd blaenllaw. Fel nifer o Gymry eraill, roedd ymroddiad George M. Ll. i heddwch yn ddwfn iawn, a chafodd ei garcharu am gyfnodau sylweddol am wrthwynebu rhyfel a gorfodaeth milwrol.
 
Trwy gyfnod anodd y Rhyfel Mawr fe ledodd yr argyhoeddiad o nerth Cymod Crist a'i berthnasedd i'n byd ni, ac ynYn 1919 daeth Cymdeithas y Cymod Rhyngwladol i fod. Bellach mae'n fudiad aml-ffydd gyda dros 40 o ganghenau tra wahanol ar draws y byd. Ym Mhrydain mae'r Gymdeithas wreiddiol wedi rhannu'n ganghennau annibynnol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban; a mae cysylltiadau clos hefyd gyda mudiadau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Gymdeithas yng Nghymru'n parhau i lynu wrth ei sylfeini Cristnogol, ond estynir croeso i rai o argyhoeddiadau gwahannol i rannu'n llawn yn ei gweithgareddau.
 
== Nod y Gymdeithas==