Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Marcsiaeth: cyfalafiaeth, Gramsci
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android
Llinell 45:
==Adeileddaeth==
{{prif|Adeileddaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)}}
[[Delwedd:West and East Germans at the Brandenburg Gate in 1989.jpg|bawd|310px|Daeth adeileddaeth yn boblogaidd yn sgil cwymp [[Mur Berlin]] a diwedd comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop,<ref>Stephen M. Walt, Foreign Policy, No. 110, Special Edition: Frontiers of Knowledge. (Spring, 1998), p.41: "The end of the Cold War played an important role in legitimizing constructivist t realism and liberalism failed to anticipate this event and had trouble explaining it.</ref> oherwydd yr oedd hwn yn ddatblygiad na chafodd ei ragweld gan ddamcaniaethau eraill.<ref>Hay, Colin (2002) ''Political Analysis: A Critical Introduction'', Basingstoke: Palgrave, P. 198</ref>]]
Ymddangosai adeileddaeth yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn y 1980au, ac enillodd ei haeddiant yn sgil diwedd y Rhyfel Oer.<ref>[https://web.archive.org/web/20081121235514/http://www.oup.com/uk/orc/bin/9780199285433/jackson_chap06.pdf]</ref> Daeth i herio'r ddadl ddeuol rhwng neo-realaeth a neo-ryddfrydiaeth a oedd yn nodi'r maes yn niwedd yr 20g.<ref>Hopf, Ted, The Promise of Constructivism in International Relations Theory, International Security, Vol. 23, No. 1 (Summer, 1998), p.171</ref> Mae damcaniaethau adeileddol yn ymwneud â'r effeithiau sydd gan syniadau ar y strwythur ryngwladol, sut mae'r strwythur honno yn pennu diddordebau gwladwriaethau, a'r moddion mae gwladwriaethau a gweithredyddion anwladwriaethol yn cynnal at atgynhyrchu'r strwythurau.<ref>Michael Barnett, "Social Constructivism" in The Globalisation of World Politics, Baylis, Smith and Owens, 4th ed, OUP, p.162</ref> Prif elfen adeileddaeth ydy'r gred taw syniadau dylanwadol, gwerthoedd cyfunol, diwylliant, ac hunaniaethau cymdeithasol sydd yn siapio hynt a helynt, trefn ac anhrefn gwleidyddiaeth ryngwladol. Dadleuir taw peth gwneud yw'r realiti ryngwladol, a bennir gan strwythurau cymdeithasol a gwybyddol sydd yn rhoi ystyr i'r byd materol.<ref name="Alder, Emmanuel 1997, p.319">Alder, Emmanuel, Seizing the middle ground, European Journal of International Relations, Vol .3, 1997, p.319</ref> Ymddangosodd y ddamcaniaeth yn sgil dadleuon ynghylch y [[dull gwyddonol]] ym maes cysylltiadau rhyngwladol a'r rhan sydd gan damcaniaethau wrth greu a siapio grym gwleidyddol rhyngwladol.<ref>K.M. Ferike, International Relations Theories:Discipline and Diversity, Dunne, Kurki and Smith, OUP, p.167</ref> Dywed Emanuel Adler bod adeileddaeth yn meddu'r tir canol rhwng damcaniaethau rhesymolaidd a dehongliadol.<ref name="Alder, Emmanuel 1997, p.319"/>
 
==Ôl-adeileddaeth==