Tristan und Isolde: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 52:
Mae Branwen yn ailadrodd sylwadau Curenwal ac mae Esyllt yn adrodd yr hanes o sut daeth hi o hyd i farchog wedi anafu a sut bu iddi ddefnyddio ei doniau iachau i'w hachub. Yn ystod ei adferiad canfu Esyllt mae Trystan, yr un lladdodd ei chariad ydoedd. Gwnaeth hi geisio ei ladd gyda'i [[cleddyf|gleddyf]] ei hun. Ond wrth iddi fynd ati i geisio e drywanu sylwodd nad oedd Trystan yn edrych ar y cleddyf oedd am ei ladd na'r llaw oedd yn ei drafod ond yn edrych i'w [[llygaid]]. (''Er sah' mir in die Augen''). Toddodd ei edrychiad ei chalon a methodd ei ladd. Gadawodd i Trystan byw ac ymadael a'r Iwerddon gydag addewid na ddaw byth yn ôl. Wedi gwylltio o ddeall bod Trystan wedi ei bradychu trwy ddychwelyd er mwyn ei phriodi i un nad yw'n ei garu. Mae hi'n mynnu bod Trystan yn yfed llwncdestun iddi fel iawn am ei gam. Mae hi'n gofyn i Branwen i baratoi diod ar gyfer y llwncdestun. Mae Branwen yn cael sioc o weld bod rysáit y ddiod yn cynnwys [[gwenwyn]] marwol.<ref name ="ENO">[https://www.eno.org/operas/tristan-and-isolde/ English National Opera - Tristan and Isolde] adalwyd 29 Medi 2018</ref>
 
Mae Curwenal yn rhoi gwybod i'r merched bod y daith bron ar ben. Mae Esyllt yn ddweud ei bod am wrthod mynd oddi ar y llong oni bai bod Trystan yn yfed y llwncdestun iddi. Mae Trystan yn cytuno i yfed y llwncdestun er ei fod yn gwybod bod perygl iddo gan ei fod yn cofio am ddoniau Esyllt gyda llysiau meddyginiaethol. Mae Trystan yn yfed rhan o'r ddiod ac mae Esyllt yn yfed y gyfran arall. Dydy'r ddiod dim yn eu lladlladd ond yn gwneud i'r ddau syrthio mewn cariad. Mae Branwen yn cyfaddef ei bod wedi defnyddio cyffur cariad yn hytrach na gwenwyn wrth baratoi'r ddiod.
 
===Act 2===