Bhubaneswar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Teml Lingaraj, Bhubaneswar '''Bhubaneswar''' (hefyd: '''Bhubaneshwar''') yw prifddinas talaith [...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yn gyn brifddinas teyrnas [[Kalinga]], mae gan y ddinas hanes hir fel un o ganolfan crefyddol a diwylliannol pwysicaf [[Hindŵaeth]] ac heddiw mae'n ganolfan economaidd ranbarthol hefyd. Yng nghwrs ei hanes, mae Bhubaneswar wedi cael ei adnabod wrth sawl enw, e.e. Toshali, Kalinga Nagari, Nagar Kalinga, Ekamra Kanan, Ekamra Khetra a Mandira Malinya Nagari. Cynlluniwyd y ddinas fodern gan y pensaer Almaenig Otto Königsberger yn 1946. Daeth yn brifddinas talaith Orissa yn 1948, blwyddyn ar ôl i India ennill ei hannibyniaeth oddi ar [[Yr Ymerodraeth Brydeinig|Brydain]]. Cyn hynny, [[Cuttack]] a fu'n brifddinas Orissa hyd 1947. Gelwir Bhubaneswar a Cuttack "dinasoedd gefaill" Orissa.
 
Ceir nifer fawr o demlau Hindwaidd yn Bhubaneswar ac felly fe'i gelwir weithiau yn 'Ddinas Temlau' India. Mae rhai o'r temlau hyn yn hynafol ac yn cynrychioli'r cyfan o bensaernïaeth Kalinga. Y pwysicaf o'r rhain yw temlauTeml Lingaraj, sy'n dyddio o'r 10fed ganrif ac a gysegrir i [[Shiva]]. Mae temlau mawr eraill yn cynnyws temlau Lakshmanesvara, Parasuramesvara, Svarnajalesvra, Muktesvara, Rajarani, Vaital, Brhamesvara, Meghesvara, Vaskaresvara, Ananta Vasudeva, Sari, Kapilesvara, Markandesvara, Yamesvara, Chitrakarini a Sisiresvara.
 
Gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Biju Patnaik gyda ffleits dyddiol i [[Delhi Newydd]], [[Mumbai]], [[Kolkata]] ([[Calcutta]]), [[Hyderabad]], [[Chennai]] a [[Bangalore]]. Mae'n ganolfan rheilffordd fawr hefyd gyda gorsaf ar Reilffordd Arfordir Dwyrain India.